Punch Maughan, owner of Found Gallery, with artists Michael Howard and Roger Reese

Mae Punch Maughan, perchennog Found Gallery, yn siarad â’r artistiaid Michael Howard a Roger Reese, sydd wedi cyfrannu at arddangosfa wych newydd yn yr oriel gyfoes. Mae’r ddau artist yn byw yng nghefn gwlad Aberhonddu, ac mae’r dref yn eu hysbrydoli mewn ffyrdd gwahanol.

Mae Michael yn cynhyrchu dehongliadau haniaethol o dirweddau lleol, yn dangos bryniau a chymoedd wedi’u lliwio â gwawr naturiol y rhedyn ac wedi’u marcio gan draciau a chreithiau sy’n cris-croesi’r cefn gwlad.

Mae gan adeiladau Aberhonddu straeon i’w hadrodd,’ dyweda. ‘Dwi’n hoffi cofnodi’r straeon hynny.

Mae gwaith Roger yn canolbwyntio ar yr amgylchedd adeiledig, sy’n arbennig o briodol yn Aberhonddu oherwydd ei chymysgedd o adeiladau o oedrannau amrywiol. Mae’n hoff o ymchwilio i’r gweithgareddau a fyddai wedi digwydd yn ac o gwmpas yr adeiladau hyn, ac mae ganddo ddiddordeb mawr yn y broses araf o newid wrth i adeiladau hŷn ddiflannu a cael eu disodli gan strwythurau newydd.

Mae Roger yn cofnodi ei argraffiadau o amgylchedd trefol newidiol y dref, gan roi adeiladau nodedig Aberhonddu yn eu cyd-destun a’u hamgylchedd eu hunain. Mae Michael hefyd yn angerddol dros dreftadaeth Aberhonddu, gan ei disgrifio fel rhywbeth ‘anhygoel’. Yn ystod eu trafodaeth, mae Michael a Roger ill dau’n myfyrio ar sut mae detholiad o artistiaid pwysig wedi portreadu Aberhonddu, gan gynhyrchu cofnod gweledol o’r dref a’r cyffiniau dros y blynyddoedd. Gwrandwch ‘mlaen i glywed y sgwrs lawn.

Yn anffodus, nid yw’r arddangosfa Found in the Town and Found in the Hills wedi’i chynnal oherwydd y pandemig Covid-19 a’r cyfyngiadau y mae’r llywodraeth wedi’u rhoi ar waith. Mae Found Gallery yn gobeithio ailgyflwyno’r arddangosfa hon yn y misoedd i ddod, pan all yr Oriel agor eto.