Claire Parsons ydw i. Dwi’n byw yn Aberhonddu a dwi wedi bod yn gweithio i Glandŵr Cymru ers dechrau 2020. Dwi’n gweithio fel Rheolwr Menter ac yn helpu gyda phrosiectau ar hyd y rhwydwaith camlesi yng Nghymru a de-orllewin Lloegr. Mae Glandŵr Cymru yn rheoli 2000 milltir o ddyfrffyrdd er budd pawb, oherwydd ry’n ni’n credu bod bywyd yn well ar lan y dŵr.

Dwi’n mwynhau’r ffaith ei bod hi’n sianel sy’n arwain yn gyflym ac yn hawdd o ganol Aberhonddu ym masn y gamlas i gefn gwlad. Mae ‘na olygfeydd godidog wrth i ni deithio drwy Ddyffryn Wysg yn y parc cenedlaethol. Mae’r gamlas yn lle heddychlon a braf iawn. Ond cafodd ei chreu at ddibenion diwydiannol. Ar ddechrau’r 19eg ganrif, roedd camlesi yn fentrau proffidiol iawn. Cafodd y gamlas ei sefydlu o amgylch y diwydiannau glo, haearn a chalchfaen i gludo deunyddiau. Cynyddodd traffig ar hyd y gamlas yn aruthrol. Cafodd 3500 tunnell ei gludo yn 1796, ond erbyn 1809 cofnodwyd 150,000 tunnell.

Cafodd gwaith ei ddechrau ar y gamlas ar ddiwedd y 18fed ganrif a chafodd ei hagor yn Aberhonddu yn Rhagfyr 1800. Wedi hynny roedd yn lle prysur a gweithgar iawn. Dirywiodd yn y 19eg ganrif pan ddechreuodd y rheilffyrdd gystadlu gyda’r gamlas. Yn y cyfnod rhwng y ddau ddigwyddiad yma, roedd y diwydiant calchfaen yn ffynnu, gydag odynau calch yn y Watton ac Aberhonddu. Roedd odynau calch yn rhan allweddol o ddiwydiant y gamlas. Roedd calch yn cael ei losgi at ddefnydd amaethyddol ac i wneud mortar calch ar gyfer y diwydiant adeiladu. Roedd y calch yn cael ei losgi yn yr odynau ar dymheredd o hyd at 900 gradd. Weithiau roedd yn cymryd wythnos gyfan i’w losgi a byddai’n rhaid i weithwyr ofalu amdano, gan weithio dan amodau ofnadwy weithiau. Roedd y tywydd yn wael ar brydiau a byddai’r gweithwyr yn ceisio cadw’n gynnes tra bod y calch yn llosgi. Byddai mwg gwenwynig yn dod mas. Yn drist iawn, bu farw rhai yn ystod y broses honno. Doedd ganddyn nhw ddim o’r offer diogelwch sydd ‘da ni heddiw. Roedd yn dirwedd brysur iawn a pheryglus weithiau i’r bobl a oedd yn gweithio yn y diwydiant.

Dwi wedi byw yn Aberhonddu ers 20 mlynedd a dwi’n mwynhau mynd mas gyda’r teulu ar y gamlas, gan geisio eu cadw nhw rhag cwympo i mewn pan o’n nhw’n iau! Dim ond un plentyn sydd wedi cwympo i mewn ‘da ni – beiciodd fy mab i mewn i’r gamlas pan oedd yn chwech oed. Mae’n llwybr gwych, gyda phram neu feic, ac ry’ch chi’n gallu cerdded allan o Aberhonddu i gefn gwlad ac amrywio eich teithiau yn raddol i fwynhau’r gamlas. Gallwch chi ddechrau ym masn y gamlas ger y Theatr. Gallwch chi wneud taith egnïol iawn ac ymuno â Thaith Taf am 55 milltir i Gaerdydd neu gallwch chi ddilyn llwybr haws a cherdded ling-di-long ar hyd y gamlas, o bosib hyd at Loc Brynich, sydd ychydig yn llai na dwy filltir. Ry’n ni wedi creu llwybr cam-wrth- gam gydag adnoddau ar-lein. Ewch ychydig yn bellach na Loc Brynich ac fe ddewch at y ddyfrbont fwyaf ar y gamlas, sy’n croesi Afon Wysg gyda golygfeydd godidog a bywyd gwyllt – crehyrod, bronfreithod ac, os ydych chi’n lwcus, dyfrgwn yn yr afon. Ewch yn eich blaenau i Bencelli neu trowch o gwmpas a dod yn ôl i Aberhonddu. Mae’n llwybr poblogaidd iawn gyda cherddwyr, beicwyr a phobl sy’n cerdded y ci – pobl yn teithio ar gyflymderau gwahanol. Os y’ch chi’n dewis beicio cadwch lygad allan am gerddwyr, a allai fod rownd y gornel ac yn symud yn araf.

Os y’ch chi eisiau ymlacio, gallwch chi logi cwch neu ymuno â thaith cwch o fasn y gamlas. Mae’r teithiau cwch yn para cwpwl o oriau. Felly gallwch chi deithio ar gyflymder rhesymol iawn ar hyd y gamlas a mwynhau’r golygfeydd o Fannau Brycheiniog a’r bywyd gwyllt. Ry’ch chi mewn bad camlas felly gallwch chi eistedd yn gyfforddus gyda lluniaeth, felly mae’n daith hawdd iawn.

Dwi’n mwynhau rhedeg yn araf iawn o gwmpas Aberhonddu gyda fy nghi, a dwi’n defnyddio’r gamlas weithiau. Does dim rhaid i chi fynd mas a dod yn ôl ar hyd y gamlas. Ffeindiwch lwybr cerdded a dod yn ôl i Aberhonddu - lle mae digonedd o lefydd braf i gael coffi - ar hyd ffordd wahanol.

Mae Aberhonddu yn dref bert iawn mewn lleoliad prydferth. Ac mae’r holl gyfleusterau sydd eu hangen arnoch yma. Am ymweliad, i aros dros nos. Gallwch chi fynd i’r sinema neu’r theatr, mae digon o fwytai neu dewch am goffi bach. Ewch am dro ar hyd y gamlas neu ar hyd y rhwydwaith o lwybrau cerdded ar hyd yr afon ac yna dewch yn ôl am damaid o fwyd neu ddiod.

Beth sy’n fy ysbrydoli i am Aberhonddu yw bod y bobl a’r ymwelwyr yn cymysgu ac yn aml yn mwynhau’r un pethau: yr amgylchedd naturiol hyfryd a’r adeiladau. Pan ry’ch chi’n mynd mas o’r dref ar hyd y llwybr halio, allwch chi ddim dweud y gwahaniaeth rhwng ymwelwyr a thrigolion lleol yn aml, mae pawb yn joio’r un peth.

yn ôl