Dwi’n gweithio ar Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog fel Saer Maen Treftadaeth llawn-amser. Fe gymhwysais i fis Medi diwethaf. Fe benderfynes i ddod yn saer maen ar ôl i fy ngŵr ffeindio ffurflen gais. Ro’n i wedi dod nôl o’r brifysgol ar ôl gwneud gradd mewn celf gain, a do’n i ddim yn gwybod beth i ‘neud. Felly, fe feddylies i, beth sy’ ‘na i’w golli. Man a man gwneud cais am rywbeth ychydig yn wahanol. Dwi’n meddwl yn ymarferol iawn. Roedd yn swydd lle gallwn i ‘neud rhywbeth ymarferol, dysgu sgil newydd a manteisio ar hynny yn fy nghelf.

Mae fy ngwaith o ddydd i ddydd yn gallu amrywio o wneud tipyn o ail-bwyntio ar bont neu wal i adfer yr holl beth. Felly mae fy ngwaith yn ymwneud â gwarchod y ffabrig hanesyddol ond hefyd sicrhau bod twristiaid yn gallu galw draw a’i ddefnyddio.

Fel saer maen ar y gamlas, mae ein prif ffocws ar y strwythurau, sy’n tua 100 oed. Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn eu cynnal gan ddefnyddio dulliau traddodiadol, yn unol â rhestriadau ac, yn aml, statws Henebion Cofrestredig, felly mae’n rhaid i ni sicrhau bod popeth ry’n ni’n ‘neud yn gywir.

Felly yn hytrach na defnyddio dulliau confensiynol, ry’n ni’n defnyddio dulliau hanesyddol fel torri carreg sych gyda morthwyl a gaing. O ddydd i ddydd fe allen ni fod yn dymchwel waliau, glanhau cerrig, ailadeiladu ac ail-bwyntio.

Y rhan fwyaf heriol o ‘ngwaith i yw mynd i mewn i’r gamlas. Mae ‘da ni rai darnau sy’n rhaid eu gwagio cyn ailadeiladu’r waliau. Weithiau ry’ch chi’n stryffaglu drwy fwd i adeiladu waliau a dyna’r rhan fwyaf rhwystredig am y gwaith, treio symud o gwmpas. Ond, heblaw am hynny, dwi’n joio pob eiliad.

Y peth gorau am y swydd yw gweithio tu fas. Mae’n eithaf rhyfedd i fi, oherwydd dwi’n ystyried y gamlas yn rhywbeth pensaernïol, ond dwi ddim yn meddwl bod llawer o’r un farn. Felly, mae gen i’r gorau o ddau fyd, rili, dwi mas ynghanol natur, ond dwi hefyd yn gweithio ar strwythurau pensaernïol.

Mae pobl yn gofyn i fi’n eithaf aml: beth mae menyw’n ‘neud yn y math yma o swydd? Dwi ddim yn digio, oherwydd dwi’n deall. Ry’n ni mewn lle hanesyddol, mae pobl yn sownd yn eu ffyrdd heb sylwi. Dwi’n meddwl bod gweld menyw yn ‘neud y gwaith ‘ma yn agoriad llygad i rai pobl. Dwi’n meddwl bod lot o bobl jyst yn gofyn yn gyffredinol, be’ ti’n ‘neud? Yna dwi jyst yn esbonio, hebddon ni’n gwneud y gwaith trwsio, fe allai dŵr fod yn gollwng bobman, ac mae’r gamlas wedi’i hadeiladu ar ochr mynydd! Mae’n un o’r camlesi mwyaf cymhleth oherwydd dyw hi ddim ar dir gwastad, felly mae’n rhaid rheoli’r dŵr. Felly fel seiri maen, ry’n ni’n trwsio’r gamlas yn barhaus i’w chadw’n ddiogel ac fel bod pobl yn gallu parhau i’w defnyddio – byddai’n siom pe na bai yno. A dwi’n meddwl ei bod hi’n un o’r unig gamlesi sydd wedi manteisio ar beidio bod mewn ardal adeiledig. Yng nghanolbarth Lloegr a llefydd fel ‘na, mewn ardaloedd mwy adeiledig, maen nhw’n cael problemau gyda fandaliaeth. Felly dwi’n meddwl ein bod ni’n lwcus iawn fod gennym ni gamlas sy’n cael ei chadw gystal.

Cafodd y gamlas ei hadeiladu mewn ymateb i drafnidiaeth. Felly roedd cyn y rheilffyrdd. Fe alluogodd pobl i gludo nwyddau o drefi gwahanol, i ‘neud arian yn y bôn. Roedd ceffylau’n gyrru’r badau. Mae Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog wedi’i hadeiladu ar ochr mynydd. Felly, fe gymerodd hi gryn amser i’w hadeiladu, roedd hi’n fwy cymhleth. Mae ychydig yn fwy gwerinol na rhai o’r pontydd addurniadol ry’ch chi’n eu gweld, ond dyw hynny ddim yn golygu ei bod hi’n llai gwerthfawr. Mae’n rhan enfawr o’n treftadaeth ddiwydiannol. Mae’n bwysig ein bod ni’n ei gwarchod oherwydd mae’r dreftadaeth ddiwydiannol yn gysylltiedig â llawer o drefi ar hyd y ddyfrffordd. Hwn yw ein cysylltiad â’n gorffennol. Yn sicr. Yn arbennig gyda sut mae’r trefi hyn wedi’u hadeiladu a thyfu. Mae ganddyn nhw i gyd y cysylltiad ‘na â’r dreftadaeth ddiwydiannol, felly mae’r ddyfrffordd wedi gallu cysylltu’r trefi.

Dwedwn i fod y gamlas nawr yn cael ei defnyddio fel gofod hamdden, yn enwedig gan gychwyr ar wyliau. Ond, yn gyffredinol, mae’r rhan fwyaf o bobl dwi’n gweld yn cerdded eu cŵn. Mae lot o feicwyr hefyd oherwydd mae llwybr beicio ar hyd glannau’r gamlas nawr. Ac mae ardaloedd pysgota, ond dwi’n meddwl bod rhaid cael trwydded i ‘neud hynny. Yn gyffredinol mae’n ofod lle mae pobl yn joio. Mae am ddim. I fi, mae’n rhyw fath o amgueddfa awyr agored y gallwch ei chyrraedd o bobman. Dyw hi ddim yn anodd cyrraedd yma a dyw’r dirwedd ddim yn anodd i’w cherdded. Gall y rhan fwyaf o bobl roi cynnig arni, ac mae’n braf i blant allu dod yma a gweld y bywyd gwyllt.

Dwi’n meddwl ei bod hi’n braf gallu rhoi rhywbeth nôl. Dwi bob amser wedi cael budd o’r gofod yna. I allu gweithio yna a rhoi rhywbeth nôl, mae’n neis iawn. Mae hynny’n rhywbeth arall am fy ngwaith sy’n werth chweil.

Er fy mod i’n saer maen o ddydd i ddydd, mae gen i stiwdio gelf hefyd. Mae fy ngwaith fel artist wedi newid ers i fi symud yn ôl i Gymru. Fy wnes i fy ngradd yn Llundain. Felly roedd ‘na lot o nendyrau o ‘nghwmpas i, adeiladau diddorol iawn, a llawer o gerddwyr. Dwi’n meddwl bod fy ngwaith ar y pryd wedi cael ei ddylanwadu gan brysurdeb.

Nawr dwi wedi symud gartref. Dwi’n uniaethu llawer mwy â natur a dwi’n gweld fy ngwaith yn dod yn fwy organig, yn fwy rhydd. Mae hynny hefyd yn deillio o fy ngwaith saer maen, dwi’n meddwl. Ond beth sy’n wych am Aberhonddu yw eich bod chi’n gallu cerdded ar hyd y gamlas a chysylltu â’r dirwedd leol yn gyflym. Mae ‘da chi’r Bannau, mae ‘da chi’r gamlas, mae ‘da chi’r afon, ac mae’r cyfan yn toddi’n un wrth fynd am dro. Dwi’n hoffi loetran o gwmpas a chrwydro a jyst mwynhau’r bensaernïaeth yma, oherwydd mae’n go anhygoel. Mae ‘na amrywiaeth dda o wahanol fathau o bensaernïaeth o’r 18fed ganrif. Felly fe allwch chi dreulio diwrnod yn edrych ar y ffenestri a gweld y siapiau gwahanol. Ac fe allwch chi ddweud lot am adeilad o’r manylion bach, ac mae hynny’n wobrwyol. Roedd llawer o dafarndai yn Aberhonddu ‘slawer dydd. Fe allwch chi weld drwy edrych ar yr adeiladau pa rai oedd yn dafarndai neu rywbeth arall. Dwi’n meddwl, er bod adeiladau’n newid a meddiannaeth yr adeiladau ‘na yn newid, dydyn nhw ddim yn newid o’r tu fas. Felly, fel ymwelydd ag Aberhonddu, fe allwch chi ei mwynhau am beth yr arferai fod o hyd. Dwi’n meddwl ei bod yn drysor o ran yr agwedd bensaernïol.

yn ôl