Mae Aberhonddu yn dref farchnad Sioraidd. Mae’n bert iawn. Mae wedi’i hamgylchynu gan y Bannau. Mae mor brydferth. Mae’n teimlo fel ‘pen y daith’ i raddau. Mae’n un o’r llefydd ‘na sydd wedi llwyddo i osgoi gormod o unffurfiaeth brif-ffrwd; mae wedi’i gosod ‘rywsut-rywsut’ o hyd. Mae ‘da ni lot o siopau annibynnol, caffis hyfryd, bwytai a gwestai. Maen nhw i gyd wedi cadw eu cymeriad lleol eu hunain.
Mae ‘na deimlad hyfryd i Aberhonddu. Roedd ‘na farchnad amaethyddol yma ‘slawer dydd, reit yn y canol, ac mae honno wedi diflannu ond, yn rhyfedd, mae’r ‘ymdeimlad ffermio’ yma o hyd. Y bobl sy’n byw a gweithio yma ac yn y mynyddoedd yw’r canolbwynt o hyd.
Dwi wedi byw yn Aberhonddu am 20 mlynedd ac ers 2006 dwi wedi bod yn rhan o dîm Gŵyl Baróc Aberhonddu. Cafodd ei sefydlu gan Rachel Podger a’i phartner Tim Cronin, ac mae’n cael ei rhedeg gan bwyllgor. Ry’n ni’n dod â cherddorion rhyngwladol i Aberhonddu am benwythnos hir bob mis Hydref. Felly, ry’n ni’n cymryd rheolaeth o bedwar neu bum lleoliad o gwmpas Aberhonddu; yr Eglwys Gadeiriol, Theatr Brycheiniog, Capel yr Aradr ac, o bryd i’w gilydd, Coleg Crist Aberhonddu, ac ry’n ni’n cynnal cyngherddau.
Rachel Podger yw’r cyfarwyddwr artistig. Mae ganddi gysylltiadau lu yn y diwydiant cerddoriaeth ac mae’n un o’n talentau gorau ar lefel fyd-eang. Mae hi’n gwahodd cyd-gerddorion y mae hi wedi gweithio gyda nhw o bob cwr o’r byd ac maen nhw’n llwyfannu cyfres o gyngherddau rhwng dydd Iau a dydd Llun. Mae gan yr ŵyl agwedd addysgiadol braf hefyd. Ry’n ni’n gweithio’n agos iawn gyda Cherddoriaeth Ieuenctid De Powys a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn dod â cherddorion ifanc a sêr y dyfodol i’r ŵyl.
Ry’n ni hefyd yn cynnal areithiau a theithiau cerdded i’r mynyddoedd. Felly mae’n benwythnos hir, hyfryd o greu cerddoriaeth a dathlu Aberhonddu.
Mae Rachel yn byw yn Aberhonddu. Dyna sut dechreuodd popeth. Mae hi’n gerddor baróc, yn arbenigwr mewn cyfnod penodol iawn o gerddoriaeth. Mae’r feiolin mae hi’n ei chwarae yn offeryn baróc ac mae’r repertoire mae hi’n ei chwarae i gyd o’r cyfnod baróc. A gan ei bod hi’n byw yn Aberhonddu ac eisiau dod â’i cherddoriaeth yma, crëwyd Gŵyl Baróc Aberhonddu. Y man dechrau, mae’n siŵr, oedd y gerddoriaeth a’r hyn mae Rachel yn ei chwarae a beth mae’n ei ddefnyddio i’w chwarae. Datblygodd i mewn i Ŵyl Baróc Aberhonddu. Mae’n gyfnod a repertoire penodol iawn ac mae traw’r gerddoriaeth, er enghraifft, yn wahanol i’r repertoire clasurol arferol. Ac mae’r offerynnau’n swnio’n fywiog iawn ac yn ffres iawn ar y glust. Mae’r feiolin yn swnio fel feiolin ond mae iddi ryw fath o gyseiniant gwahanol. Mae gan feiolin Rachel linynnau perfedd ac felly nid yw’n creu’r sŵn metelig ry’ch chi’n ei gael gydag offeryn clasurol – mae’r llinynnau perfedd yn creu sŵn dwfn. Mae’n sŵn bywiog y mae pawb yn dwlu arno. Mae’r holl gerddoriaeth mae Rachel yn ei chwarae wedi bod yn addysg i ni i gyd. Mae hi wedi ein cyflwyno i repertoire, i gerddorion ac i gyfansoddwyr na fyddem wedi clywed amdanyn nhw o’r blaen o bosib.
Ac mae llawer o offerynnau wedi dod i’r ŵyl am y tro cyntaf, fel y Fiola Da Gamba, ac eleni mae ‘da ni Feiol Undant, sy’n offeryn anarferol iawn. Maen nhw i gyd o’r cyfnod Baróc.
(Cyfwelydd: Alli di ddisgrifio Ffiol Undant?)
Wrth gwrs. Roedd yn cael ei chwarae gan fenywod yn y lleiandy, nad oedden nhw’n gallu canu. Dwi ddim yn cofio pryd yn union. Y 15fed ganrif, falle. Mae’n gorn mawr, hir iawn, fel y byddech chi’n ei weld yn yr Alpau, ond mae’n offeryn tannau. Ac mae’n gwneud sŵn rhyfeddol, nad yw’n debyg i ddim byd arall.
Ac mae Claire Salomon yn dod â’r Feiol Undant yma gyda’i grŵp, The Society of Strange and Ancient Instruments. Mae hi wedi bod i’r ŵyl o’r blaen ac mae hi’n dychwelyd yn 2021.
Ac mae hi’n wych, ac mae ganddi gasgliad enfawr o offerynnau hyfryd, hyrdi-gyrdis a nyckelharpas sy’n nodweddiadol o’r oes. Dwi’n meddwl mai’r peth arbennig yw ansawdd y cerddorion – maen nhw’n anhygoel. Mae Rachel wedi bod yn arbennig o ddewr gyda’r hyn mae hi’n ei lwyfannu a phwy mae hi’n eu gwahodd i ddod yma a chwarae i ni. A bob blwyddyn, yn ddi-ffael, mae’n cymryd ein hanadl ni. Dwi’n meddwl mai un o’r uchafbwyntiau i fi yw’r cymysgedd, o ddarllediadau byw o’r theatr i BBC Radio 3 i bobl ifanc yn eistedd nesaf at un o sêr mwya’r byd, siŵr o fod, yn chware’r feiolin ochr yn ochr â hi ac yn dysgu. Mae’n gynhwysol iawn ac mae’r pedigri artistig yn anhygoel.
Mae’r ŵyl yn gwerthu allan bob blwyddyn, mae pobl yn dod o mor bell â Siapan, Awstralia ac America, ac mae llawer o Ewropeaid yn dod hefyd. Gwawriodd arnom yn sydyn mai’r peth hyfrytaf am Aberhonddu yw’r mynyddoedd o’n cwmpas ni, a sut y dylem ni eu hymgorffori i mewn i’r ŵyl. Felly fe ddechreuon ni gynnal taith gerdded bob dydd Llun yn ystod yr ŵyl am ychydig oriau, yn gorffen gyda chinio cyn y gyngerdd nesaf. Roedd yn ffordd o ddechrau cyflwyno pobl i ble ydyn ni. Ac ry’n ni hefyd wedi cynnal teithiau o rai o’r lleoliadau; mae gan Goleg Crist Aberhonddu, er enghraifft, hanes rhyfeddol o ddyddiau Harri’r Wythfed. Felly ry’n ni’n cynnal teithiau cerdded bach o gwmpas y capel hyfryd a’r neuadd fwyta. Bob blwyddyn mae mwy a mwy o gerddwyr yn ymuno â ni. Mae pobl yn cyrraedd gyda’u bŵts a bant â ni. Mae’n clymu’r cefn gwlad anhygoel â’r gerddoriaeth ac yn cynnig profiad go iawn o Aberhonddu.
Dwi’n byw rhwng Aberhonddu a Chrucywel mewn lle bach o’r enw Bwlch. Dwi wedi byw yn Aberhonddu ers 20 mlynedd. Dwi’n dilyn traddodiad o ‘Gedges’ sydd wedi bod yn gweithio yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu ers dros 40 mlynedd.
Priodes i i mewn i deulu cerddorol iawn, a dwi’n caru Aberhonddu. Y mynyddoedd yw fy lle i. Dyna lle dwi’n mynd. Mae’n lle arbennig iawn, iawn. Ry’n ni’n lwcus iawn i fod ‘ma, ac alla i ddim dychmygu byw yn unrhyw le arall nawr.
Fe allwch chi gerdded am ryw 25 munud ac edrych ar olygfa sydd heb newid ers Oes yr Haearn siŵr o fod. Fe allwch chi fod yn sefyll ar fryn yn edrych tua’r mynyddoedd a’r cefn gwlad – mae peth o’r fflora a ffawna yn arbennig i Aberhonddu – a theimlo llonyddwch hyfryd. Mae’r lle ‘ma wedi aros yr un peth yr holl amser ‘ma, ac mae hynny’n rhyfedd o gysurlon.