Dechreuodd fy mhrofiad o Aberhonddu 55 mlynedd yn ôl, pan o’n i’n blentyn. Ces i fy magu yng Nglynebwy, un o drefi’r cymoedd. Fel trît, byddai fy rhieni yn ein gyrru dros Rostir Llangynidr i dreulio ambell i brynhawn dydd Sul yn Aberhonddu neu fwynhau’r promenâd ar ddydd Sadwrn, lle roedd ‘na bwll padlo awyr agored. Cawson ni lot o sbort yn sblasio o gwmpas, ac mae ‘da ni atgofion melys o’r amgueddfa. Os o’n ni’n lwcus, bydden ni’n cael mynd i Ddôl yr Esgob am de prynhawn.
Dwi wedi bod mewn cariad ag Aberhonddu ers amser maith, a symudes i yma 20 mlynedd yn ôl. Roedd fy ngŵr yn newyddiadurwr gyda’r papur newydd lleol, y Brecon and Radnor Express. Am dref fach, mae’n cynnig cymaint. Mae cymaint i’w weld a’i wneud yma, ar wahân i natur. Nid oes gan lawer o drefi bach eglwys gadeiriol, sinema, Amgueddfa Filwrol, theatr. Mae ‘da ni bedwar banc hefyd – maen nhw’n bethau prin mewn trefi dyddiau ‘ma. Dwi’n meddwl bod Aberhonddu yn lle hyfryd i fyw ynddo.
Am y ddwy flynedd ddiwethaf dwi wedi bod yn gweithio yn Croeso Aberhonddu, y Ganolfan Wybodaeth i Dwristiaid, a dwi’n joio mas draw. Mae ‘na ddau aelod o staff, fi ac Amanda, ac mae 25 o wirfoddolwyr ffyddlon, brwdfrydig o Aberhonddu yn ein helpu. Fe agoron ni ym mis Mai y llynedd ac ry’n ni wedi cael tua 40,000 o ymwelwyr, siŵr o fod, sy’n eithaf da am dref fach. Edrychwch ar ein llyfr ymwelwyr ac fe welwch bobl o bob cwr o’r byd, llawer o Ewrop a’r Iseldiroedd. Maen nhw’n hoffi’r bryniau. Ry’n ni’n cael llawer o ymwelwyr o’r Almaen – dwi’n siarad Almaeneg yn eithaf rhugl, felly dwi’n ymarfer fy Almaeneg yn eithaf aml. Ro’n i’n dysgu Cymraeg ond nid oedd yn dod yn hawdd i fi. Po hynaf ydych chi, yr anoddaf yw hi i ddysgu iaith newydd. Ond dwi yn gallu siarad tipyn bach o Gymraeg a Ffrangeg os oes angen, ond roedd fy nghydweithiwr Amanda yn ddarlithydd ac mae hi’n siarad Ffrangeg ac Eidaleg yn rhugl. Ac mae rhai o’n gwirfoddolwyr yn siaradwyr Cymraeg. Pan mae pobl yn dod i mewn ry’n ni’n eu croesawu, yn gofyn a oes angen help arnyn nhw. Mae rhai jyst yn edrych o gwmpas, ond mae eraill eisiau cyngor penodol, fel llwybrau cerdded. Ry’n ni bob amser yn gofyn cwestiynau i ddarganfod pam eu bod nhw yn Aberhonddu. Mae rhai yn dod am ychydig oriau, tra bod eraill yn aros am benwythnos. Ry’n ni’n darganfod beth sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Os ydyn nhw’n dweud hanes milwrol byddwn yn eu cyfeirio at Amgueddfa Gatrodol y Cymry Brenhinol, os ydyn nhw’n dweud treftadaeth, mae ‘da ni’r eglwys gadeiriol. Mae ‘na gestyll ar wasgar yma ac acw yn y Parc Cenedlaethol. Mae ‘da ni lwybrau cerdded hyfryd yn y dref, ar hyd y promenâd neu’r gamlas.
A Phen-y-Crug, bryn uwchben Aberhonddu, mae ‘na olygfeydd godidog o’r fan yna. Mae rhai yn dod i Aberhonddu am y tro cyntaf. Mae ‘da ni fap da iawn o’r dref, sy’n dangos yr adeiladau wedi’u peintio yn eu lliwiau go iawn – felly ry’n ni’n gobeithio na fydd neb yn ailbeintio’r tŷ! Mae rhai o’r gwirfoddolwyr yn haneswyr ac yn perthyn i’r gymdeithas hanes leol. Mae un o’r menywod yn cynnal teithiau tywys hanes o gwmpas y dref.
Mae lot o’r bensaernïaeth yn Sioraidd. Mae yna dai Fictoraidd a rhai tai hen iawn, fel Plas Boleyn. Mae’r eglwys gadeiriol yn dyddio o’r 11eg ganrif. Ry’ch chi’n gallu edrych i lawr ar doi Aberhonddu o’r fan yna, ac mae’r nenlinell yn hyfryd. I unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes pensaernïol, mae ‘na gyfoeth o leoedd i’w gweld. Er ei bod hi’n dref fach, allwch chi ddim gweld popeth mewn un dydd. Mae logo Croeso Aberhonddu yn galon, a’r arwyddair yw ‘calon y parc’. Mae Aberhonddu yng nghanol y Parc Cenedlaethol. Ry’n ni’n dref fach sy’n cynnwys yr holl gyfleusterau fyddech chi’n disgwyl eu gweld mewn tref, ond ry’n ni dafliad carreg o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.