Fy enw i yw Frank Banks, a fi yw un o’r croesawyr yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu. Mae gennym ni dreftadaeth gyfoethog yn y dref yma. Ry’n ni’n croesawu ymwelwyr o bob cwr o’r byd.

Mae’r ymwelwyr yn gofyn lot o gwestiynau. Maen nhw yn aml yn synnu at y ddau ddrws hanner ffordd lan y wal, sy’n arwain i ddim unman. Maen nhw’n meddwl mai twll offeiriad oedd yna, neu efallai fod rhywbeth yn pontio’r ddau ddrws? Oedd, roedd ‘na groglen yna. Gynt, roedd yr Eglwys Gadeiriol yn briordy Benedictaidd. Roedd y pererinion yn dod ac yn rhoi ceiniog i’r Benedictiaid ac yn cerdded i fyny’r grisiau (a oedd yn y wal o hyd) ac yn agor y drws. Ac, yn hytrach na chwympo a thorri eu gyddfau, roedden nhw’n cerdded ar draws y groglen neu bont. Hanner ffordd ar draws roedd ‘na groes aur. Fe fydden nhw’n cyffwrdd â’r groes aur am iachâd, am fendith, am lwc dda. Ac fe fydden nhw’n mynd drwy’r drws arall ac i lawr y grisiau. Roedd y groes yna am ganrifoedd tan i’r fynachlog gael ei diddymu. Daeth comisiynwyr Harri’r wythfed i Aberhonddu a phenderfynu symud y groes ymaith. Roedden nhw eisiau mynd â’r clychau hefyd. Gwrthwynebodd trigolion Aberhonddu y comisiynwyr, felly fe lwyddon nhw i gael y groes ond nid y clychau.

Mae gennym daflenni ‘Rwy’n gweld â’m llygad bach i...’ i blant. Maen nhw’n cael pwyntiau am ddod o hyd i bethau fel drysau hanner ffordd lan wal neu lygoden wen. Dyna’r peth anoddaf i’w ffeindio, siŵr o fod. Yn wir, pan wnes i’r daflen, doedd y Deon ei hun ddim yn gwybod ble roedd y llygoden! Mae’n stori dda yn ei rhinwedd ei hun. Mae llygoden wen ar waelod ffenestr gwydr lliw Cattwg, sef sant o Gymru - un o nifer sydd wedi’u coffáu yn yr eglwys gadeiriol. Mae’n unigryw, dwi’n meddwl. Os darllenwch chi stori Sant Cattwg, pan oedd yn sefydlu ei fynachlog fe ymgasglodd ddisgyblion newynog o’i amgylch. Daeth llygoden eitha’ tew atyn nhw ac eistedd ar ei ddesg, a gollwng darn bach o wenith ar y ddesg. Ac aeth y llygoden i ffwrdd a dod â darn arall yn ôl a’i ollwng yn yr un lle. Meddyliodd, ‘Sut mae’r llygoden yma yn bwyta mor dda?’

Clymodd ddarn o edefyn cotwm wrth gynffon y llygoden a dilyn yr edefyn a dod o hyd i storfa o rawn a oedd wedi bod yno am hyd at 10 mlynedd. Roedd wedi’i ddiogelu rhag y tywydd ac yn iawn i’w fwyta. Ac felly ni newynodd y mynachod. Achubodd y llygoden wen y gymuned gyfan.

Mae pobl yn fy holi i am y ffynnon, sy’n 800 mlwydd oed, a’r ddwy gofeb y tu ôl iddi. Ar y ffynnon mae ffurfiau diddorol sy’n edrych fel Astec yn dod mas o’r bath. Mae rhai yn awgrymu mai Dyn Gwyrdd yw e, gyda’i ddail, ond mae’n edrych yn union fel ffurf fynachaidd yn chwydu! Dwi’n gwybod bod rhai yn awgrymu bod pechod yn gadael y corff pan ry’ch chi’n cael eich bedyddio. Dyma sydd i’w weld yma – mae’r chwydu’n arwydd o bechod yn gadael y corff.

Ger y ffynnon fe welwch y goeden wybodaeth, pysgodyn, sgorpion neu efallai ei fod yn edrych fel draig. Dwedodd rhywun wrthyf i unwaith ei fod yn edrych fel ci yn bwyta ei gynffon ei hun, sy’n symbol arall. Mae lot o’r bobl sy’n gofyn cwestiynau yn gadael gyda’u syniadau eu hunain.

Fy man cyfrinachol yn Aberhonddu dwi’n hoffi ei ddangos i bobl yw’r oriel yn y theatr. Mae yna gyfres o arddangosfeydd newidiol – weithiau celf gain, weithiau darluniau cyfoes neu gerflunwaith neu ffotograffau cyfoes o fywyd yn Aberhonddu. Felly fe allwch chi weld mewn ychydig funudau beth sydd gan Aberhonddu i’w gynnig.

Mae Aberhonddu yn arbennig oherwydd mae ei thrysorau’n cuddio. Mae’n gweithio mewn dwy ffordd; maen nhw’n gudd, maen nhw’n dawel. Fe allech chi fod ar eich pen eich hun yn cerdded yn Aberhonddu. A dyna pam mae’n lle gwych i’w argymell i ymwelwyr – gallant gerdded yn y bryniau, ond os yw hi’n bwrw mae cymaint i’w wneud yn Aberhonddu, fel y Gaer, theatr, oriel, eglwysi ac eglwys gadeiriol.

yn ôl