Lynn: Os dwedwch chi’r enw Aberhonddu wrth unrhyw un yn y DU neu ledled y byd, yr ateb a gewch yw Gŵyl Jazz Aberhonddu. Mae’n frand mor adnabyddus. Dechreuodd y cyfan yn 1984 ac mae hi bellach yn ei 37fed flwyddyn. Gwnaeth llawer o bobl frwdfrydig – cerddorion, hyrwyddwyr, trefnwyr a phobl sy’n hoff o jazz – a oedd wedi mynychu gwyliau jazz Ewropeaidd fel y North Sea Jazz Festival, feddwl ‘beth am wneud hyn yn Aberhonddu?’. Roedd y gwyliau cynnar mewn tafarndai, yn yr awyr agored ac ar y strydoedd – fel New Orleans.

Roger: Fel dwedodd Lynn roedd yr ŵyl gyntaf yn 1984. Ac fe aethom ni i’n gŵyl gyntaf yn 1986.

Lynn: Ro’n ni’n byw yng ngogledd Lloegr bryd hynny. Roedd hi’n daith hir i Aberhonddu. Yn gyntaf fe welson ni arwydd mawr ger y gylchfan yn dweud Croeso i Ŵyl Jazz Aberhonddu – roedd yn gyffrous iawn. Doedd dim rhaglen ar gael ymlaen llaw yn y dyddiau hynny – fe fyddech chi’n aros nes i chi gyrraedd i weld beth oedd ‘mlaen.

Roger: Yn y dyddiau cynnar roedd e’n ddigwyddiad cymunedol.

Roger: Roedd yn digwydd yng nghanol y dref ac yn cynnwys pawb – lleoliadau, tafarndai, bwytai. Dros y blynyddoedd fe dyfodd i mewn i ŵyl ryngwladol enfawr.

Lynn: Mae miloedd o bobl yn mynychu, a’r holl enwau mawr yn y byd jazz.

Roger: Meddyliwch am enw mawr yn y byd jazz a bydd yn siŵr o fod wedi chwarae yn Aberhonddu. Yn 2016 fe enillon ni grant bach i ddogfennu’r holl enwau sydd wedi ymddangos yma.

Lynn: Mae rhai o’r mawrion yn cynnwys: George Melly, Humphrey Littleton, Sonny Rollins, Jimmy Giuffre, Herbie Hancock, Ray Bryant, Buena Vista Social Club, Count Basie Orchestra.

Lynn: Roedd cerddorion jazz lleol yn rhan o’r ŵyl o’r dechrau hefyd. Mae Aberhonddu yn lwcus i gael rhai cerddorion jazz gwych yn byw yma. Dechreuodd y Clwb Jazz lleol cyn yr Ŵyl yn y 1970au.

Roger: Yn y gorffennol mae gigiau wedi’u cynnal yng Ngwesty’r Castell, The Struet, y Clwb Rygbi, a Dukes Bar yng Ngwesty’r Wellington lle roedd ganddyn nhw lot o femorabilia ar y waliau, ac yna symudodd pethau i Theatr Brycheiniog.

Lynn: Fe ddechreuon ni redeg y Clwb Jazz drwy ddamwain yn 2006. Dywedodd Bob, a oedd yn rhedeg y clwb ar y pryd, nad oedd e’n iach iawn a’i fod e’n symud tŷ; a hoffen ni redeg y lle? Fe edrychon ni ar ein gilydd ac er ein bod ni’n gweithio’n llawn-amser, fe ddwedon ni ‘iawn, fe drefnwn ni ddigwyddiad’. Yna fe roddodd restr o gysylltiadau i ni.

Roger: Cynigiodd cerddorion berfformio am ddim.

Roger: Fe wnaethon ni hyn am dri mis a doedden ni ddim yn siŵr a ddylen ni gario ‘mlaen ac yna rhoddodd rhywun siec o £500 i ni!

Roger: Doedd dim dewis ‘da ni wedyn, roedd rhaid i ni ddal ati.

Lynn: Mae pobl yn dwlu ar y clwb jazz, sydd bellach yn y Muse. Mae’n ganolfan groesawgar a chymdeithasol i bobl.

Roger: Ydy, mae’n gymdeithasol, mae’n noson allan.

yn ôl