Mae disgrifio Ardent Gallery i rywun sydd heb fod ‘na yn eithaf syml achos, i fi, mae’n lle cofiadwy iawn. Mae yna oriel gelf 3 llawr gyda detholiad amrywiol iawn o waith celf. Mae’n un o’r adeiladau hynaf ar ein stryd fawr. Cafodd ei gofrestru gyntaf ym 1586. Wrth i chi gerdded trwy’r adeilad, fe welwch chi hen drawstiau a nodweddion fel ein hen leoedd tân ac mae’r adeilad yn ddarn o waith celf ynddo’i hun. Ac mae’r gwaith celf enfawr hwn yn gartref i’r holl weithiau celf anhygoel ‘ma, ac mae hynny wastad wedi fy rhyfeddu i. Er ‘mod i’n gweithio yma ers blynyddoedd, dwi’n dal i ddod i mewn a meddwl bod y gofod hwn wir yn arbennig. Mae ‘da ni hanes ‘fyd. Gwnaeth dynes leol, ffotograffydd, ymchwilio i’r adeilad fel rhan o’i gradd Meistr ac fe dynnodd luniau diddorol iawn o’r gweithiau celf, y gofod, a gwneud gosodiad anhygoel. Roedd yn arddangosfa am yr adeilad – daeth ein hadeilad yn ddarn o gelf yng ngwir ystyr y gair. 

Mae Ardent Gallery yn lle o arddangosfeydd. Mae hefyd yn lle o gerddoriaeth fyw yn ystod yr Ŵyl Jazz. Ry’n ni’n cefnogi artistiaid lleol ac mae’r rhan fwyaf o’n harddangosfeydd yn tua 40% lleol, ond mae ‘da ni artistiaid cyhoeddedig hefyd sy’n arddangos mewn orielau ledled y DU. Ry’n ni’n rhoi Ardent Gallery ar y map, ond ry’n ni hefyd yn rhoi Aberhonddu ar fap y byd celf.

Mae ‘da ni fudiad diwylliannol yn y gofod hefyd. Ry’n ni eisiau denu pobl i fwynhau gwaith celf, gweld ein harddangosfeydd, gweld yr amrywiaeth o waith sydd ar ddangos. Y llynedd, ces i ddyrchafiad i fod yn Rheolwr Oriel.

Ry’n ni’n ceisio cael artistiaid sy’ ddim yn arddangos gyda ni yn barod – rhywbeth newydd i bobl ei weld. Ry’n ni’n cynnal Gŵyl Menywod flynyddol Aberhonddu. Mae’n cyd-daro â Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth. Mae Leigh a Nikki o siop lyfrau a chaffi The Hours yn cynllunio gŵyl fawr iawn o gwmpas y dyddiad hwn. Ry’n ni’n cynnal digwyddiad celf o gwmpas Diwrnod y Menywod. Mae artist benywaidd yn galw draw i ‘neud paentiad nodwedd yn yr orielau. Mae ‘da ni breswylfa artist hefyd. Ry’n ni’n cynnal cymaint o ddigwyddiadau celf gwahanol yn y gofod. Ry’ch chi’n siŵr o weld rhywbeth gwahanol ar bob ymweliad. Mae’n dda bod yn egnïol. Mae hyn yn adlewyrchu’r sîn gelf yn Aberhonddu. Dim ni yw’r unig leoliad celf bywiog ac egnïol. Mae pawb yn cynnal eu digwyddiadau eu hunain – celf neu gerddoriaeth. Mae’n annog pobl i fynd mas a mwynhau diwylliant, sydd wir yn anhygoel. 

Mae ‘da ni wasanaeth fframio yn Ardent Gallery. Ry’n ni’n fframio gweithiau celf. Ian, perchennog yr oriel, yw ein prif fframiwr a fe sydd fel arfer yn gyfrifol am fframio’r eitemau mwy anarferol. Mae Ian wedi fframio seddi stadiwm o gêm bêl-droed, eitemau chwaraeon, batiau criced. Ond yr un mwyaf cofiadwy i fi yw pan fframion ni focs pizza ar gyfer dyweddïad. Roedd y gŵr am ofyn i’w bartner ei briodi gyda pizza caws! Ysgrifennodd ar y caead – Wnei di fy mhriodi i? Dywedodd hi ‘gwnaf’, sy’n hyfryd. I gofio’r foment, cafodd ei fframio gan ddefnyddio bocs ffrâm safonol safon-oriel o ansawdd uchel iawn. Gwnaeth ei gyflwyno iddi ar eu pen-blwydd priodas. Roedd yn wych i fod yn rhan o hyn – daeth bocs pizza yn ddarn o gelf. A bydd hynny’n atgof iddyn nhw am weddill eu bywydau. Ry’n ni’n rhan o gymaint o straeon – gwaith celf pobl, y tro cyntaf i unigolion arddangos mewn oriel, pobl sydd wedi bod yn arddangos ers blynyddoedd a phobl sydd eisiau fframio rhywbeth. Ry’n ni’n rhan o straeon Aberhonddu.

Dwi wedi byw yn Aberhonddu drwy gydol fy oes. Dwi bob amser wedi ymddiddori mewn celf felly dyna o’n i wastad yn mynd i ‘neud. Pan o’n i’n 18 fe adewais i Aberhonddu i astudio cwrs Sylfaen mewn celf a dylunio yng Nghaerdydd, ac yna es i ‘mlaen i astudio gradd BA Anrhydedd mewn celf gain. Mae’n anodd gwybod beth ma’ ‘neud, sut ma’ ffitio celf i mewn i fywyd bob dydd. Dwi nawr yn rheoli’r oriel ac yn peintio fy hun, sy’n neis iawn. Dwi’n beintiwr olew, dwi’n peintio tirluniau, ond dy’n nhw ddim yn draddodiadol. Mae’r ffordd dwi’n peintio yn draddodiadol ac efallai bod y paentiadau o fynyddoedd, coed a thirluniau yn edrych yn draddodiadol, ond dwi’n gwneud fy mrasluniau paratoadol gan ddefnyddio collage. Dwi’n cerdded lot yn y Bannau ac yn tynnu lot o luniau. Yna dwi’n dod adre’ ac yn eu torri’n ddarnau bach ac yn gwneud collage cyfansoddol. Felly mae gen i lyfr braslunio sy’n llawn collages cyfansoddol bach yn barod i’w troi’n baentiadau. Ar ôl iddyn nhw gael eu gorffen maen nhw’n edrych fel collages ond mewn gwirionedd maen nhw’n baentiadau olew fflat cyflawn. Maen nhw’n edrych fel tase ‘na ryddhad iddyn nhw. Maen nhw’n deyrnged i le. Fe allech chi fod mewn un lle, yn edrych ar baentiad tirlun traddodiadol, a dim ond sgwâr o dirlun ydyw. Ond mae fy ngwaith i’n dod â chymaint o ardaloedd o dirlun at ei gilydd, mae’n deyrnged i le gyda darnau bach o le gwahanol – mae’n rhoi persbectif i chi o’r ardal gyfan.  Dwi’n caru peintio olew ac wedi bod yn gwneud hynny ers cryn amser. Mae’r paent yn cyfuno mor dda. Dwi’n cyfuno lluniau gyda’i gilydd, ond mae’r paent hefyd yn asio â’r dirwedd. A dwi bob amser wedi ymddiddori mewn tirwedd. Felly roedd dod â thirwedd a chelf at ei gilydd yn hawdd iawn i fi. Dyna wnes i ar gyfer sioe fy ngradd ac fe ddalies i ati wedyn. Yn bersonol, dwi’n teimlo’n bositif iawn am fod yn artist yn Aberhonddu. Mae ‘da ni artistiaid sydd yn eu 80au. Mae ‘na un gŵr oedd yn arfer dysgu yn yr ysgol gelf leol a nawr mae’n peintio yn Stiwdios Agored Aberhonddu. Mae’n pasio ei etifeddiaeth a’i wybodaeth ‘mlaen i’r artistiaid iau. Dwi’n teimlo ‘mod i’n cael fy nghefnogi gan artistiaid sydd wedi bod yn creu celf ers cymaint o amser yn ein hardal. Mae’n ddefnyddiol iawn ac yn ysbrydoledig.

Mae Stiwdios Agored Aberhonddu yn llwybr o gwmpas Aberhonddu (ar y penwythnos ym mis Mehefin). Mae wedi’i ddylunio gan bobl leol. Ry’ch chi’n cael map ac yn dilyn llwybr o gwmpas Aberhonddu gan ymweld â thai phobl. Mae ‘da ni amrywiaeth o artistiaid yn byw ac yn gweithio yn Aberhonddu ac ry’ch chi’n cael eich gwahodd i mewn i’w stiwdio i weld sut maen nhw’n gweithio neu falle byddan nhw’n arddangos eu gwaith mewn lleoliad tebyg i oriel. Mae ‘na ffotograffiaeth, peintio, teithio, cerfluniau gwydr – mae’n ddiddiwedd. Os gwnewch chi’r llwybr cyfan ry’ch chi’n cael gweld cymaint o gelf mewn un dydd, sy’n gyffrous iawn. Mae hynny’n rhan fawr o’n sîn gelf ni. Mae pobl yn dod o bobman i ddilyn y llwybr. Dwi wedi bod yn rhan o’r llwybr fy hun. Roedd gen i stiwdio gelf yn y fowtiau, ond dyw hi ddim yna mwyach. Roedd ‘na wyth artist yn yr un lle, yn peintio a darlunio, a ffotograffwyr, fel rhyw fath o hyb. Byddai pobl yn cerdded i mewn heb wybod beth oedd yn mynd ‘mlaen – roedden nhw’n synnu bod cymaint o gelf yn cael ei chynhyrchu.  

Ar yr wyneb, mae Aberhonddu yn dref fechan. Ond o dan yr wyneb mae cymaint yn digwydd yma – mae’n anodd credu. I fi, hwn yw fy nghartref. Hyd yn oed pan symudes i ffwrdd i’r brifysgol, byddwn ni’n dod nôl ar y bws. Cyn gynted ag y gwelwn i’r Bannau, ro’n i’n gwybod ‘mod i bron adre’. Ond dyma hefyd lle dwi wedi datblygu fy nghelf - yn yr amgylchedd hwn. Fyddwn i heb gael y cyfleoedd hyn yn unrhyw le arall. Felly mae’n arbennig iawn i fi, a dwi’n falch iawn o’r dref ei hun a phopeth dwi wedi llwyddo i ‘neud ‘ma.

yn ôl