Symudes i a fy ngŵr i Aberhonddu yn 2004 ond mae gan ein teuluoedd gysylltiadau ag Aberhonddu sy’n estyn yn ôl dros genedlaethau. Ffeindiodd fy ngŵr hen gopi o’r Breconshire Handbook o ddechrau’r 1950au.

Dwi’n caru’r lle ‘ma. Mae’r frawddeg yma’n dweud, “Few, if any of the older towns of Wales can compare with Brecon in the quality of its domestic architecture. Excellent examples of houses belonging to periods ranging from Tudor to early Victorian, may be seen in its winding streets, serving as a reminder of the opulence and respectability of bygone days. Indeed, such is the present appearance, the town that it requires, but a small stretch of imagination to visualise the splendor of the days, not so long ago, when many of the present buildings served as town residences for the local gentry.”

Ar ôl darllen hynny, fe ddechreues i ar daith o ddarganfod. Ro’n i eisiau dod â hanes Aberhonddu i’r amlwg. Mae 1775 yn ddyddiad pwysig iawn i fi yn hanes Aberhonddu. Am ddau reswm. Dwi’n dod o deulu ffermio, a chafodd Cymdeithas Amaethyddol Aberhonddu, y gymdeithas amaethyddol hynaf yn y DU, ei sefydlu yn y flwyddyn hon. Hefyd yn y flwyddyn hon cafodd Sarah Siddons ei geni yn Aberhonddu yn y Shoulder of Mutton Inn. Enw’r dafarn heddiw yw’r Sarah Siddons. Roedd y teulu Kemble, ei rhieni Roger a Sarah Kemble, yn grŵp o actorion teithiol. Roedden nhw’n ymweld ag Aberhonddu rhwng y 1750au a’r 1780au. Ganed Charles Kemble, brawd iau Sarah Siddons, yn Aberhonddu 20 mlynedd yn ddiweddarach yn 1775.

Mae dysgu am stori Sarah Siddons wedi bod yn hynod o ddiddorol. Mae’n stori o lwyddiant, methiant, gorfoledd, trychineb a sgandal. Ond mwynhaodd hi gariad y cyhoedd am hanner canrif. Cafodd ei pheintio gan holl beintwyr mawr y 18fed ganrif; Thomas Lawrence, Joshua Reynolds, Thomas Gainsborough, Gilbert Stewart – mae’r rhestr yn faith. Efallai mai oherwydd y portreadau hynny ry’n ni’n dal i siarad amdani heddiw. Yn ystod ei gyrfa, daeth yn ffefryn i’r brenin Siôr III a’r frenhines Charlotte. Daeth yn ddarllenydd i’r plant brenhinol. Ei champ fwyaf oedd cael ei chydnabod fel un o’r goreuon i chwarae rhan Lady Macbeth. Dechreuodd ei thymor yn Llundain yn Theatr Drury Lane o dan Garrick yn gyntaf ac yna Sheridan. Roedd gan y teulu Kemble berthynas eithaf anodd gyda Sheridan, oherwydd gwrthododd eu talu. Yn y pendraw, trodd y teulu Kemble eu cefnau arno a phrynu cyfrannau yn Covent Garden. Nhw oedd perchnogion y safle hwn am 30 mlynedd.

Roedd sgandal Sarah Siddons yn ymwneud â Thomas Lawrence a ph’un a oedden nhw’n caru ar y slei. Ond does dim tystiolaeth o hyn. Roedd yn canlyn ei dwy ferch. Roedd eisiau dyweddïo ag un ferch ond gwrthododd y teulu. Yna cwympodd Lawrence mewn cariad â’r ferch arall, Maria, ond bu farw’r ddwy ferch o’r pla gwyn. Maria, yr ail ferch iddo gwympo mewn cariad â hi, oedd y gyntaf i farw, ac ar ei gwely angau gwnaeth i’w chwaer addo na fyddai byth yn priodi Thomas Lawrence.

Pwy yw Thomas Lawrence? Roedd yn enwog iawn yn y 18fed ganrif.

Fe oedd sylfaenydd yr Academi Frenhinol, dwi’n meddwl. Parhaodd Sarah Siddons i berfformio tan 1812. Hi oedd prif enillydd cyflog ei theulu, a chafodd saith o blant yn ystod ei gyrfa ar y llwyfan. Bu farw ei brawd John Philip Kemble yn 1817. Bu farw Thomas Lawrence yn y 1820au. A bu hithau farw yn 1831.

Aeth 5000 o bobl i’w hangladd yn Llundain. Charles Dickens ddechreuodd y gwaith o gasglu arian i ddylunio ac adeiladu cerflun iddi yn Abaty San Steffan. Ar sylfaen y cerflun mae’n dweud; Sarah Siddons born Brecon 1755 died London 1831. Mae ei henwogrwydd yn amlwg hyd heddiw. Yn 1998, prynodd Amgueddfa Getty yn UDA y portread gan Reynolds ac mae ail un yn Oriel Gelf Dulwich, Llundain. Cyflwynodd Amgueddfa Getty arddangosfa yn 1998 lle dangoswyd y ddau bortread am y tro cyntaf. Ewch i wefan Amgueddfa Getty ac fe allwch lawrlwytho rhaglen yr arddangosfa, ‘A passion for performance’.

Yn yr 20fed ganrif, saethodd ei cherflun i enwogrwydd ar ôl ymddangos yn y ffilm ‘All About Eve’ a enillodd Oscar gyda Bet Davis yn y brif rôl. Yn y ffilm, roedd cystadleuaeth am wobr ddychmygol – Gwobr Sarah Siddons. Yn dilyn llwyddiant y ffilm, sefydlwyd Gwobr Sarah Siddons i’w rhoi i actores nodedig bob blwyddyn. Mae llawer o actoresau arbennig wedi’i hennill; Deborah Kerr, Bet Davis, Angela Lansbury, Lauren Bacall a Julie Andrews. Yn ddiweddar, perfformiwyd All About Eve gan y Theatr Genedlaethol ac fe es i i wylio’r sioe yn y theatr yn Aberhonddu. Unwaith eto, roedd Gwobr Sarah Siddons, replica o’r un a bortreadwyd gan Joshua Reynolds, yn rhan o’r stori.

Ac fe ddechreuodd hyn i gyd yn Aberhonddu.

yn ôl