Fy enw i yw Velvet Cole a dwi’n gweithio yn Theatr Brycheiniog fel cynorthwy-ydd marchnata.

Fi yw Jay Edwards a dwi’n gynorthwy-ydd cymorth busnes.

Velvet Cole: Fe ddes i Aberhonddu flynyddoedd yn ôl. Ro’n i’n gwneud hyn a’r llall a nawr dwi wedi setlo.

Jay Edwards: Dwi ddim ond wedi bod ‘ma am chwe mis.

Velvet Cole: Mae Aberhonddu yn swigen fach greadigol. Am le mor fach, mae’n greadigol iawn. Mae ‘na stiwdios celf agored dwi wedi bod yn mynd iddyn nhw ers ychydig flynyddoedd. Fe helpais i gyda gŵyl y merched. Mae ‘na lot o artistiaid, cantorion a beirdd yn Aberhonddu.

Jay Edwards: Mae’n lle llawn ysbrydoliaeth... y Mynyddoedd Duon a’r Parc Cenedlaethol.

Velvet Cole: Os ydych chi’n artist neu awdur, mae digon i’ch ysbrydoli. Cyfwelydd Pam wyt ti’n meddwl bod y dref yn gymaint o ganolbwynt?

Velvet Cole: Y mynyddoedd a’r awyrgylch, dwi’n meddwl, y bobl, ac mae’n dref fechan.

Jay Edwards: Mae ‘na dipyn o gymuned yma. Velvet Cole Ac mae’n hawdd i bobl ffurfio grwpiau a meddwl am syniadau a phrosiectau, a’u cyflawni. Mae gen i ferch sy’n bedair oed ac mae Aberhonddu’n lle da iddi hi fod.

Jay Edwards: Fe ddes i Aberhonddu i weithio. Yn ystod fy egwyl ginio dwi’n mynd i’r farchnad neu bopty St. Mary. Ar y penwythnos efallai y bydda i’n mynd i weld sioe neu gerdded ar hyd y gamlas. Hoffwn i fynd ar daith gwch ar hyd y gamlas. Cyfwelydd Beth yw un o’r rheiny?

Jay Edwards: Mae Dragonfly yn rhedeg trip dwy awr a hanner i’r ddyfrbont ac yn ôl.

Velvet Cole: Mae’n daith fach hyfryd.

Jay Edwards: Mae’n wych ar gyfer ymlacio. Chwaraewch CD i ddysgu am y gamlas a mwynhau paned wrth hwylio. Fy ffefryn yw twnnel Ashford. Roedden nhw’n gadael i’r ceffylau a oedd yn tynnu’r bad gerdded o gwmpas y twnnel a dros y bryn. Byddai pobl yn gorwedd ar ben y bad ac yn defnyddio’u traed i’w symud drwy’r twnnel. Mae’n tua 300 troedfedd o uchder, yn eithaf tywyll a brawychus. Mae’n rhaid i chi ei gadw’n syth oherwydd os byddwch chi’n bwrw yn erbyn un wal, byddwch chi’n bwrw’r un nesaf a’r nesaf. Dwi’n meddwl bod dyfodol y Theatr lle dwi’n gweithio yn gyffrous iawn. Mae ‘na gyfarwyddwr newydd a lot o arloesi. Mae’n wych gweld sut mae’n cydblethu â’r gymuned. Ac yn cysylltu â grwpiau lleol o bob oedran.

Velvet Cole: Mae’n ganolbwynt o greadigrwydd, ac yn fan cymunedol hefyd. Caeodd y ganolfan gymunedol ym Mryn Cradoc ddwy flynedd yn ôl felly bydd y Theatr yn rhywle i bobl fynd. Mae’r adeilad yn ysbrydoledig. Mae hi’n bwysig cadw lleoliadau fel hyn yn fyw.

Jay Edwards: Am theatr ganolig ei maint, mae mewn lleoliad canolog iawn yng Nghymru ac o fewn cyrraedd i gymunedau gwledig, gan felly roi’r cyfle iddyn nhw weld theatr, celf, drama, arddangosfeydd a sioeau.

Cyfwelydd: Petaech chi’n disgrifio Aberhonddu i rywun sydd ddim yn gyfarwydd â’r dref, beth fyddech chi’n dweud?

Jay Edwards: Mae’n gynnes. Mae’n gyfforddus o fach, fel tref bwthyn. Mae pawb yn nabod pawb. Mae rhywbeth yn mynd ‘mlaen bob amser. Mae ‘na Eglwys Gadeiriol, theatr a llawer o leoliadau bach fel y Muse. Mae pethau i’w gwneud ar y penwythnos, cerddoriaeth neu arddangosfa gelf, gweithdai fel gwnïo.

Velvet Cole: Mae’n dref greadigol iawn gyda llawer o gyfleoedd. Mae’n cŵl iawn.\

yn ôl