Mae hanes milwrol hir ac amrywiol Aberhonddu yn cydblethu â llawer o frwydrau pwysicaf y canrifoedd diwethaf, ond efallai mai’r enwocaf oll yw Rorke’s Drift yn ystod y Rhyfel Eingl-Zwlŵaidd ym 1879. Chwaraeodd y 24ain Gatrawd (un o unedau rhagflaenol Catrawd y Cymry Brenhinol) rôl fawr yn y rhyfel, gan gael sawl buddugoliaeth. Cyfeiriodd y frenhines Fictoria at y gatrawd fel ‘Y 24 Mawrfrydig’ mewn teyrnged i’w hymdrechion, tra bod Donald Morris wedi adrodd stori gyffrous yr ymgyrch yn ei lyfr ‘The Washing of the Spears’.
Mae Amgueddfa Gatrodol y Cymry Brenhinol bellach yn dal casgliad helaeth o wrthrychau a dogfennau sy’n gysylltiedig â’r frwydr. Mae yna wisgoedd, medalau, dogfennau, arfau a modelau sy’n gysylltiedig â Brwydr Isandlwana – lle trechwyd lluoedd Prydain cyn eu hamddiffyniad o Rorke’s Drift. Ymysg yr uchafbwyntiau mae blwch ffrwydron o Islandlwana, y faner a chwifiwyd uwchben Rorke’s Drift a phenwisg y brenin Zwlŵaidd, Cetshwayo. Gall ymwelwyr hefyd weld adroddiad cyntaf y Prydeinwyr o Rorke’s Drift (a ysgrifennwyd ychydig oriau ar ôl i’r frwydr orffen) ac archif o lythyrau a dogfennau yn ymwneud â’r milwr cyffredin Henry Hook, y rhoddwyd Croes Fictoria iddo am ei ymdrechion.
Mae rhagor o eitemau o’r bennod hon o hanes milwrol yng Nghadeirlan Aberhonddu, lle mae prif ffenestr y dwyrain wedi’i chysegru i’r rhai a gollodd eu bywydau yn yr ymladd. Mae Capel Havard yno hefyd, sy’n dyddio o’r 14eg ganrif. Ym 1922, daeth yn Gapel Coffa Rhyfel Catrawd Cyffinwyr De Cymru a Sir Fynwy ac mae’n arddangos yr Osgordd a gariwyd yn y rhyfel Eingl-Zwlŵaidd ar y wal ddeheuol.