Mae Stori Aberhonddu yn borthol cymunedol sy’n cael ei reoli gan Rwydwaith Treftadaeth a Diwylliannol Aberhonddu. Mae’r porthol yn rhoi’r cyfle i chi ddarllen am bethau i’w gweld, gwneud a phrofi yn y dref. Mae hefyd yn adnodd llawn cynnwys i bobl eraill ac yn annog pobl i rannu erthyglau ar lwyfannau a gwefannau eraill. Isod ceir rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn.

Defnyddio’r Cynnwys

Os hoffech roi sylw i unrhyw gynnwys o borthol Stori Aberhonddu ar eich llwyfannau a’ch sianeli eich hun, rydym wedi seilio’r telerau defnydd ar y drwydded Creative Commons (CC BY-NC-ND 4.0) .

Mae hon yn eich galluogi i gopïo ac ailddosbarthu cynnwys mewn unrhyw gyfrwng a fformat ar yr amod:

  • Eich bod yn rhoi cydnabyddiaeth i Stori Aberhonddu drwy gynnwys dolen uniongyrchol i’r safle.
  • Eich bod yn arddangos logo prosiect Stori Aberhonddu (gweler detholiad o logos i’w lawrlwytho isod).
  • Nad yw’r cynnwys yn cael ei addasu.

 

  • Bod y cynnwys yn cael ei ddefnyddio at ddibenion anfasnachol yn unig.
  • Eich bod yn cysylltu â’r golygydd cyn cyhoeddi i gadarnhau y byddwch yn defnyddio cynnwys a lle caiff ei arddangos.

 

Gofynion Cydnabod

Wrth ddefnyddio unrhyw gynnwys o Borthol Stori Aberhonddu rhaid i chi:

  • Gynnwys dolen uniongyrchol i’r porthol: www.breconstory.wales
  • Arddangos logo prosiect Stori Aberhonddu (Mae’r rhain ar gael i’w lawrlwytho isod).
  • Mae’n bosibl y bydd rhai erthyglau wedi cael eu hysgrifennu gan aelodau penodol o’r gymuned felly mae’n bwysig eu cydnabod nhw yn eich dyfyniad.

 

Enghraifft o ddyfyniad:

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar Stori Aberhonddu (www.breconstory.wales) ac fe’i hysgrifennwyd gan (Awdur*) ac fe’i gwelwyd ar (DYDDIAD).

 

brecon story logo

 

lawrlwytho dogfennau

 

Ymholiadau
Gofynnwn i chi gysylltu â Golygydd Stori Aberhonddu i gadarnhau y byddwch yn defnyddio cynnwys a lle caiff ei arddangos. Gall y Golygydd hefyd helpu gydag ymholiadau a thelerau defnydd.

 

Manylion cyswllt: 

Golygydd Stori Aberhonddu - breconstory@gmail.com

Y Golygydd sydd piau’r gair olaf ar ddefnydd priodol o gynnwys sydd i’w weld ar Borthol Stori Aberhonddu.