Ry’n ni’n gasgliad o selogion: grwpiau, unigolion, atyniadau a darparwyr gweithgareddau sydd ag un peth yn gyffredin – ry’n ni’n falch o’r amrywiaeth eang o bethau sydd i’w gweld, eu gwneud a’u profi yn Aberhonddu.

Mae llawer o ymwelwyr yn nabod y dref fel calon Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ond mae’n gartref i ganrifoedd o dreftadaeth a sîn ddiwylliannol ffyniannus sy’n cynnwys celf, cerddoriaeth fyw, theatr a mwy. Ry’n ni eisiau brolio popeth sydd gan ein tref i’w gynnig, gan roi’r cyfle i drigolion lleol ac ymwelwyr ddarganfod y gwir Aberhonddu a deall pam rydym wrth ein bodd yn byw yma.

Edrychwch o’ch cwmpas ac fe welwch leoedd hynafol llawn hanes sydd â straeon rhyfeddol i’w hadrodd, orielau sydd dan eu sang â chelf wedi’i hysbrydoli gan y dirwedd brydferth sy’n ein hamgylchynu, perfformiadau theatr a dawns, a cherddoriaeth arbennig (popeth o jazz a’r blŵs i’r clasurol a gwerin).

Croeso i Aberhonddu, edrych ymlaen i’ch cyflwyno i’n cynefin.

Partneriaid

Ry’n ni’n gweithio gyda Chadeirlan Aberhonddu, Croeso Aberhonddu/Cyngor Tref Aberhonddu, Theatr Brycheiniog, Found Gallery, Gate Gallery & Glassworks, canolfan ddiwylliannol y Gaer ac Amgueddfa Gatrodol y Cymry Brenhinol ynghyd â grwpiau cymunedol fel Cymdeithas Brycheiniog a Chyfeillion yr Amgueddfa a sefydliadau yn cynnwys Twristiaeth Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Adran Dwristiaeth Cyngor Sir Powys, Brecknock Art Trust, Brecon Women's Festival, Women's Archive Wales, ac Neath Port Talbot Community College.