Y Bulwark
Dilynwch lif y traffig i lawr tuag at Eglwys y Santes Fair, a sefydlwyd yn y ddeuddegfed ganrif fel ‘capel anwes’ ar gyfer yr adeilad sydd bellach yn Eglwys Gadeiriol. Enwyd y tŵr trawiadol a godwyd yn yr ail ganrif ar bymtheg ar ôl Dug Buckingham (1485-1521), tir feddiannwr lleol grymus a aned yng Nghastell Aberhonddu. Talodd £2,000 amdano cyn cweryla gyda Brenin Harri’r VIII a chael ei ddienyddio yn Llundain.
Ewch yn eich blaen at y Bulwark, sydd â cherflun trawiadol o Ddug Wellington ynddo a luniwyd gan y cerflunydd enwog a aned yn Aberhonddu sef John Evan Thomas (1810-1873). Mae’r gwaelod hefyd yn coffau Syr Thomas Picton, sy’n ffigwr hynod ddadleuol – perchennog caethweision a gyhuddwyd o arteithio merch ifanc yn Trinidad ond hefyd yn cael ei ystyried y cadfridog Cymreig pwysicaf i ymladd ochr yn ochr â Wellington ym mrwydr Waterloo.
Os edrychwch chi o gwmpas y Bulwark mae cryn dipyn o bensaernïaeth o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i’w edmygu sy’n adlewyrchu’r cyfoeth a oedd yma gynt. Mae Gwesty’r Wellington â ffasâd o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a godwyd ar flaen adeilad sydd rhyw ganrif yn hŷn a gyda rhai rhannau tua’r cefn sy’n mynd nôl i’r ail ganrif ar bymtheg.
Adeiladwyd swyddfeydd y Brecon & Radnor Express (a gychwynnwyd ym 1889), i’r chwith iddo, 12 / 12a Bulwark o ddeutu dechrau neu ganol yr ail ganrif ar bymtheg er i’r llawr uchaf gael ei ychwanegu yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
The Bulwark is part of our WALK: The Brecon Story heritage trail. Click here to access the Google Earth map or visit the next place on our trail.