Gena Davies: Fy enw i yw Gena Davies. Dwi wedi bod yn byw yn Aberhonddu ers 1971. Symudais i yma o Bontypridd. Mae’n dref sy’n edrych yn fach, ond mae ‘na lot yn digwydd ‘ma. Allwch chi ddim cerdded i mewn i’r dref heb gwrdd â rhywun ry’ch chi’n nabod.

Cyfwelydd: Rwyt ti’n ffotograffydd?

Gena Davies: Ydw.

Cyfwelydd: Felly sonia am dy ffotograffiaeth o ddigwyddiadau’r Ŵyl Jazz.

Gena Davies: Roedd yr un gyntaf yn dipyn o sypreis. Roedd Aberhonddu yn draddodiadol yn lle o sioeau amaethyddol a threialon cŵn defaid. Roedd Gŵyl Jazz yn swnio’n egsotig iawn i’r dref yma. Do’n i ddim yn ymwybodol o’r paratoadau – roedd fel petai popeth wedi dod allan o ddim byd. Fe es i lawr i’r dref. Roedd hi fel ffair ond heb yr holl stondinau. Doedd dim traffig yng nghanol y ddinas. Roedd pobl yn sefyllian o gwmpas yn aros i bethau ddigwydd. Yn sydyn, roedd y caffis a’r tafarndai wedi rhoi cadeiriau a byrddau mas ar y pafin. Yna fe ymgasglodd pawb o gwmpas y llwyfan bandiau ac roedd band yr Adamant yn gorymdeithio. Gwych.

Gena Davies: Am yr ychydig ddiwrnodau nesaf, roedd y dref yn fwrlwm i gyd. Daeth grŵp o lowyr a oedd ar streic i fyny o Ferthyr gyda’u band eu hunain. Fe chwaraeon nhw chwarae ger Neuadd y Dref ger Lloyds Bank. Roedd ‘na gyngherddau proffesiynol hefyd, ond es i ddim i unrhyw un o’r rhain. Allwn i ddim fforddio tocynnau oherwydd ro’n i mas o waith. Fe ddechreues i dynnu lluniau. Roedd y lle fel ffair.

Gena Davies: Wrth i’r ŵyl dyfu, fe ddechreues i dynnu lluniau o rai o’r enwau mawr. Dwi’n cofio Lionel Hampton yn 1993. Wynton Marsalis yn 1993, sydd nawr yn Bennaeth Jazz yng Nghanolfan Lincoln, Efrog Newydd, a Stephane Grappelli. Roedd honno’n flwyddyn anhygoel. Ac roedd George Melly yn ymwelydd rheolaidd oherwydd roedd e’n byw lawr y lôn yn Sgethrog.

Gena Davies: Dwi bob amser wedi mwyhau cerddoriaeth stryd a’r band. Pan yn tynnu lluniau yn y neuadd roedd yn rhaid gofalu i beidio â mynd ar nerfau pobl neu’r stiwardiaid. Wrth i’r ŵyl ddod yn fwy proffesiynol, daeth y trefniadau diogelwch yn llymach ac aeth pethau’n anoddach. Roedd hi’n frawychus ar brydiau. Roedd y cynorthwywyr goleuadau a’r camerâu teledu yn niwsans weithiau, oherwydd ro’n nhw’n cael y lleoliadau gorau bob tro. A phan roedden nhw’n defnyddio’r theatr, roedd gwiriadau sain hefyd. Roedd y gwiriadau sain yn mynd ‘mlaen am amser hir iawn weithiau, ac yn mynd ar nerfau’r bobl a oedd yn aros. Pan ddechreues i dynnu lluniau, fy uchelgais oedd bod yn Ansel Adams Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae gen i lyfr ar werth yn yr Hours Bookshop yn Aberhonddu: The Brecon Jazz Story. Cafodd y llyfr ei gyhoeddi yn 2013.

yn ôl