Punch Maughan: Wel, fy enw i yw Punch Maughan a dwi’n berchen ar oriel celf gyfoes yma yn Aberhonddu, a dwi’n eistedd gyda dau o’r artistiaid a fydd yn agor arddangosfa gyda ni eleni, sef Found in the Town a Found in the Hills, a’r artistiaid hynny yw Michael Howard a Roger Reese. Ac mae’r ddau ohonyn nhw’n cael eu hysbrydoli gan bethau gwahanol sy’n ymwneud ag Aberhonddu a chefn gwlad Aberhonddu. Dwi ddim yn gwybod, Michael, hoffet ti ddweud beth sy’n ysbrydoli dy waith a beth fyddi di’n arddangos gyda ni yn Found?
Michael Howard: Wel, byddaf i’n arddangos lot o dirluniau ond, yn fy mhen, dwi ddim yn eu gweld nhw fel tirluniau. Mae’r paentiadau am baentiadau, neu am beintio. Ond, ie, maen nhw’n dangos yr holl fryniau a mynyddoedd a chymoedd o gwmpas lle dwi’n byw yn y Trallwng.
Punch Maughan: A ble mae’r Trallwng?
Michael Howard: Mae’r Trallwng ar yr A40, wrth ddod allan o Aberhonddu tuag at Abertawe.
Punch Maughan: Felly ar ochr orllewinol Aber...
Michael Howard: Ar ochr orllewinol Aberhonddu. Felly, ie, mae’n eithaf bryniog. Mae ‘na gomin neis tu ôl i fi gyda lot o redyn a lliwiau browngoch a’r math ‘na o beth, a dwi’n ei fwynhau yn fawr, a llawer o draciau a llwybrau, a waliau a llawer o greithiau a marciau y mae’r ddynol-ryw wedi’u gadael, y math ‘na o beth. A dwi wir yn mwynhau ei fod yn agwedd fawr ar fy ngwaith.
Punch Maughan: Ie, sy’n haniaethol - dwi’n meddwl y bydden i’n dweud bod dy waith yn rhyw fath o ddehongliad haniaethol i raddau.
Michael Howard: Mae’n haniaethol, ydy. Dwi ddim, dwi ddim wir yn mynd allan i gofnodi lle. Dyw hynny ddim yn fy mhen i o gwbl. Felly dwi ddim yn mynd allan i gofnodi Aberhonddu neu fryniau Aberhonddu. Dwi’n chwilio am bethau strwythurol, pethau gweadog. Yr holl agweddau technegol, y math ‘na o gyfansoddiad, peintio, yr holl bethau ffurfiol, rhinweddau ffurfiol.
Punch Maughan: Ie, wel...
Michael Howard: ... Dyna dwi’n chwilio amdano. Felly, dwi ddim eisiau creu tirluniau ystrydebol, mae hynny’n hawdd iawn. Ac mae’n broblem fawr yn ymwneud â gwrthod llawer o bethau, a ffeindio rhyw fath o lais personol o fewn hyn i gyd.
Punch Maughan: Na, dwi’n cytuno. A dyna un o’r rhesymau pam dwi wedi, t’mod, dwi’n mynd i fwynhau arddangos dy waith, felly mae hynny’n hyfryd. Ar y llaw arall, Roger, dwi’n meddwl bod dy waith di’n fwy am yr amgylchedd adeiledig o ran yr arddangosfa ry’n ni’n ei chynllunio’n fuan, on’d yw e?
Roger Reese: Ydy, ti’n hollol gywir. Dwi’n byw yng nghefn gwlad Aberhonddu hefyd, jyst tu fas i’r dref. Lle bach o’r enw Tal-y-llyn, ychydig i’r de-or... de-ddwyrain o Aberhonddu, eto ar yr A40 ond yn agos at Lyn Llan-gors ond, yn amlwg, dwi’n dod i mewn i Aberhonddu lot, yn aml. I fi, mae’n dref anhygoel, am bob math o resymau. Felly mae’r gwaith dwi’n ‘neud yn ymwneud â chofnodi, mae mor syml â ‘ny. Dwi’n dwlu edrych ar yr adeiladau o’n cwmpas ni, beth bynnag yw eu hoedran, a meddwl am y gweithgareddau a fyddai’n digwydd ynddyn nhw ac o’u cwmpas nhw, a hefyd am natur y newid, sut mae rhai adeiladau’n diflannu’n araf drwy’r broses o newid, a dydyn nhw ddim bob amser yn cael eu disodli gan adeiladau o’r un ansawdd neu agweddau gweledol. Ond dwi yn hoffi’r broses araf honno o newid. Ac weithiau, pan mae rhywbeth yn diflannu, mae’n cael ei ddisodli. Mae’n anodd iawn dychmygu beth oedd yna cynt ac, felly, t’mod, mae’n ymwneud â chofnodi argraffiadau o olygfeydd, i lawr stryd neu o adeilad, a gallu cofnodi rhywbeth am hynny, yn fwy o bosib na’r gweithgarwch dynol o’i gwmpas. Yr amgylchedd sy’n bwysig. Mae pobl yn mynd mewn a mas o amgylchedd, ac mae ganddyn nhw ddelwedd ohono fel golygfa, ond mae’r adeiladau’n aros yno. Ac felly mae ganddyn nhw straeon i’w hadrodd. Ac fe hoffwn i allu cofnodi rhywbeth am stori’r adeiladau eu hunain. Ac, wrth gwrs, mae’r straeon hynny am bobl. Am le rhyfeddol yw Aberhonddu, am gymaint o resymau. Mae’r agwedd ddiwylliannol ar Aberhonddu yn anhygoel. T’mod, mae byw yn ne-ddwyrain Lloegr, creda neu beidio, fel anialwch, anialwch diwylliannol. Mae’n ardal eithaf cyfoethog. Ond ro’n ni’n byw’n agos at dref fawr. Doedd dim theatr. Doedd dim sinema. Doedd dim oriel. Doedd dim math o ffocws ar y celfyddydau – theatr gerddorol neu beth bynnag – ac roedd dod i Aberhonddu yn newid byd. Mae ‘da ni theatr. Mae ‘da ni’r adeilad hyfryd hwn. Ry’n ni yn y Gaer nawr. Mae ‘da ni Eglwys Gadeiriol brydferth. Mae ‘da ni’r Amgueddfa Filwrol lawr y ffordd. Mae ‘da ni’r gamlas, mae ‘da ni Afon Wysg, mae ‘da ni gysylltiadau â’r Rhufeiniaid ac ati. Ac mae ‘da ni’r adeiladau hyfryd ‘ma yn Aberhonddu, adeiladau sy’n mynd y tu hwnt i’r Sioraidd, sy’n cynrychioli’r 14eg, 15fed, 16eg ganrif. Ac maen nhw yma o hyd. Mae Aberhonddu yn lle diddorol iawn, oherwydd mae llawer o beth oedd yma yn dal i fod yma, er ei fod yn cuddio i raddau. Does dim llawer o newid wedi bod. Mae’n wahanol i lawer o drefi felly ry’ch chi’n, dwi’n credu, yn camu yn ôl drwy amser, ond mae hefyd yma sîn ddiwylliannol, artistig, lewyrchus.
Punch Maughan: Ie, dwi’n meddwl bod maint y llys ynadon sy’n rhan o’r Gaer yn dangos pwysigrwydd Aberhonddu ‘slawer dydd ac ry’ch chi’n gweld y ffaith ein bod ni’n cynnal pedwar, os nad pump, banc yma, t’mod, mae’n galluogi’r dref i ailddarganfod y ganolfan a oedd yma ‘slawer dydd, lle mae’r trefi sydd yn y cyffiniau wedi colli rhywfaint o hynny.
Roger Reese: Peth diddorol arall dwi’n angerddol yn ei gylch yw’r math yna o dreftadaeth. Ac mae cyfoeth o dreftadaeth yn Aberhonddu. Do’n i ddim yn gwybod bod tipyn o artistiaid pwysig wedi ymweld ag Aberhonddu ac wedi portreadu darnau amrywiol o Aberhonddu ei hun, yn arbennig Afon Honddu. William Gibbs aeth â fi ar y daith bersonol hon. Ro’n ni’n cerdded ar hyd yr Honddu o Erddi’r Priordy, gan stopio bob hyn a hyn – ‘peintiodd yr artist ‘ma yr olygfa hon’. Roedd yn gofnod, yn gofnod gweledol o’r golygfeydd hyfryd hyn a beintiwyd mewn rhyw fath o arddull ddramatig-ramantaidd, bron fel dewis amgen i’r golygfeydd o Rufain, t’mod, y Rhyfeloedd Napoleonaidd, ni allai artistiaid deithio mwyach a pheintio dramor. Felly roedden nhw’n ffeindio ardaloedd yng ngwledydd Prydain, fel Ardal y Llynnoedd, Gogledd Cymru, ond fe ddaethon nhw i Aberhonddu hefyd. A daeth Turner yma i gofnodi.
Punch Maughan: Ie, fe ddwedodd e ‘na wrtha i’r noson o’r blaen. Byddai hynny’n arddangosfa ddiddorol, a dweud y gwir, t’mod, cyfres o rai o’r enwogion a pha olygfeydd y gwnaethon nhw eu peintio o Aberhonddu a’i thirwedd gyfagos...
Michael Howard: ... Ro’n i’n falch iawn pan gyflwynest ti’r arddangosfa ‘na yn y theatr? Roedd hi’n arddangosfa deithiol, a byddai mwy o’r math ‘na o beth yn wych. Felly rwyt ti’n cyflwyno rhywbeth sy’n bwysig yn genedlaethol
Punch Maughan: Ie
Michael Howard: nid dim ond ar lefel Gymreig, ond ar lefel Brydeinig. Ac mae’n dod i Aberhonddu. Mae Aberhonddu’n lle da i’r math ‘na o beth ddigwydd.
Punch Maughan: Ydy
Michael Howard: ac mae’n braf bod Aberhonddu’n dod yn artistig-bwysig y tu allan i Aberhonddu.
Punch Maughan: Yn sicr. A’r tu allan i Gymru, a dweud y gwir. Mae angen i ni ddenu ymwelwyr o’r tu allan i Gymru i’r dref hefyd.
Michael Howard: Dwi ddim yn meddwl y dylen ni fod yn hiraethus am Gymru ac am Aberhonddu, dwi’n meddwl y dylen ni fod yn edrych tua’r dyfodol a chael pethau i ddigwydd yma, wedi’u dechrau gan bobl ifanc, a phobl ifanc yn cymryd diddordeb yn y byd celf. Felly mae pethau newydd yn digwydd.
Punch Maughan: Oes.
Michael Howard: Yn hytrach na’r chwyldro llwyd ‘ma sy’n digwydd yma ar y funud
Punch Maughan: Mae ‘na lun ar borthol Stori Aberhonddu, sy’n edrych i lawr y Watton o ganol tref Aberhonddu, wedi’i gymryd yn gynnar yn y bore neu wrth iddi nosi, ac mae’r ffordd braidd yn wlyb. Mae eithaf lot o geir wedi parcio ar hyd ochr y Watton. Ond mae’n atmosfferig iawn gyda’r math ‘na o olau, mae’n gysgodol iawn ac ro’n i’n meddwl ei fod yn llun eithaf diddorol i’w gynnwys – dyw e ddim yn llun clasurol nodweddiadol nac yng nghanol y dref, ond yn llun o ffordd allweddol, y Watton. Llun eithaf diddorol i’w gynnwys ac mae’n dangos yr agwedd ‘na ar y golau, o ran annog Aberhonddu fel magnet i artistiaid. Beth allen ni ‘neud sy’n annog pobl...
Michael Howard: O ran Aberhonddu a’r sîn gelf a’r celfyddydau sydd gennym yma. Ry’ch chi’n gweld ambell i siop wag, ac mae hynny’n dorcalonnus, a’r ffordd ry’n ni’n defnyddio trefi dyddiau ‘ma. Dy’n ni ddim yn defnyddio trefi fel stryd fawr mwyach. Ry’n ni jyst yn clicio botwm ac yn prynu rhywbeth. A dwi’n meddwl bod potensial i’r celfyddydau neu orielau gael eu dotio o gwmpas y dref.
Punch Maughan: gwneud mwy gyda siopau gwag, ti’n meddwl?
Roger Reese: Na na. Wel, i fi, mwy o orielau lle dwi’n gallu dangos fy ngwaith.
Pawb: (Chwerthin)
Michael Howard: Ond y math ‘na o beth, lle dy’ch chi ddim jyst yn mynd i’r deli, math o beth. Ry’ch chi’n mynd i rywle diwylliannol, fel y lle yma. Mae’n ganolfan. Ydy, wel, roedd yn mynd i gael ei enwi’n Ganolfan ar un adeg, on’d oedd?
Punch Maughan: Oedd
Michael Howard: Ond ie, mae gennych chi’r Gelli am lyfrau, St Ives am beintwyr St Ives, ac fe allech chi fynd i Aberhonddu am Gelf Gymreig. Byddai’n hyfryd petai hynny’n digwydd o ran ein dyfodol celf ni.
Punch Maughan: Byddai.
Roger Reese: Byddai hynny’n wych.