Mae canmlwyddiant cofeb ryfel Cyffinwyr De Cymru a Chatrawd Mynwy wedi cael ei gofio mewn gwasanaeth gwefreiddiol yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu. Cynhaliwyd
gwasanaeth yng Nghapel Havard y Gadeirlan – cartref i nifer o faneri catrawd a phethau eraill i gofio am orffennol disglair y catrodau.

Yn ystod y gwasanaeth, cyflwynwyd pâr o gannwyllbrennau pres ynghyd â chroes bres i’r capel, er anrhydedd i’r can mlynedd a aeth heibio ers i’r gofeb gael ei chychwyn ar
Fai’r 25ain, 1922.

Yn dilyn, siaradodd y Cyrnol Rodney Ashwood gyda ‘Stori Aberhonddu’ am hanes y capel a’r catrodau a goffeir yno

 

roll or honour welsh borderers chapel in Brecon

Mae stori Cyffinwyr De Cymru yn cychwyn gyda Syr Edward Dering, 3ydd Barwnig, a greodd y Gatrawd Droed wreiddiol (Troed oedd y term a ddefnyddid am filwyr traed) ym
1689. Pwrpas hyn oedd i gefnogi’r Brenin William 111 yn ei ymgyrch filitaraidd yn Iwerddon.

Ar ôl nifer o dymhorau dyletswydd drwy’r degawdau, ym 1749 rhestrid y Gatrawd yn 24ain yn Nhrefn Blaenoriaeth y Fyddin Brydeinig, gan ennill y teitl ‘y 24ain Gatrawd
Droed (RoF) erbyn 1751, a dyfodd yn y diwedd i fod yn Gyffinwyr De Cymru ym 1881.

centenary service for the Havard Chapel in Brecon Catyhedral

Erbyn hyn mae’n ffurfio rhan o’r Cymry Brenhinol neu’r ‘Rhyfelwyr Cymreig’, ar ôl rhagor o uniadau dros y degawdau.

‘Byddin Wrth Gefn neu Fyddin Diriogaethol’ oedd Catrawd Mynwy. Byddid yn ymgynnull y rhain ar gyfer cyrchoedd arbennig ac yna’u dadfyddino. Ffurfiwyd Catrawd
Mynwy i ymladd yn Rhyfel y Boer, y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. Bu’r Cyrnol Ashwood yn trafod rhai o gofebau Capel Havard, gan ddisgrifio’r baneri
catrawd fel “symbolau cysegredig o orffennol y Gatrawd”. Pwysleisiodd eu bod hefyd yn “gofebau rhyfel parhaol”. Cyfeiriodd at y sgrolau ar rai o’r baneri catrawd yng Nghapel
Havard, gan eu bod yn portreadu Anrhydeddau Brwydr Catrodau a ymladdodd gyda chlod mawr.
 

Medals on display at the Museum of the Royal Welsh in Brecon

Daeth clod o’r fath i ran Lt.Melville a Lt.Coghill yn ystod Rhyfel y Zulu. Ar ôl i’r Gatrawd ddioddef nifer o golledion, gorchmynnwyd y ddau i achub Baner y Frenhines o
Afon Buffalo. Yn cael eu herlid gan grŵp o ryfelwyr Zulu, llwyddodd Coghill i groesi’r afon, ond oherwydd anaf i’w geffyl ni fu Melville mor llwyddiannus.
Ar ôl i geffyl Coghill gael anaf marwol, roedd y ddau ddyn ar drugaredd yr afon, a oedd mewn llif. Gyda grym y dŵr yn rhwygo’r faner o afael Melville, gofynnwyd i swyddog
arall i gynorthwyo, ond lladdwyd Melville a Coghill wrth iddynt geisio dringo ochrau serth y cwm.

Wedi i nifer o ddyddiau fynd heibio, ac ar ôl i adroddiad gael ei gyfleu i’r Gatrawd, dychwelwyd at yr afon i edrych am y faner, a oedd wedi’i dal ar greigiau. Yn y diwedd
dychwelwyd hi i Brydain, lle’r oedd y Frenhines Fictoria wedi clywed am yr ymroddiad afu i’w hachub. Gosododd ‘Dorch Immortelles’, neu flodau wedi’u sychu, fel teyrnged i’r
ddau ddyn a oedd wedi ymdrechu i arbed y Faner, ac i holl filwyr y Gatrawd a laddwyd. Ei dymuniad hi oedd y dylai’r Gatrawd gario torch o flodau ar y Faner o hynny ymlaen.
Gofynnodd y Gatrawd am Dorch Arian, sydd ers hynny wedi bod yn nodwedd o lawer o faneri, fel yr eglurodd y Cyrnol Ashwood.