Galwad Agored i Artistiaid 

Rhan 1.
Comisiwn Agoriadol i Amgueddfa’r Gaer, Oriel Luniau a Llyfrgell Aberhonddu, Powys.

“Rhoi bywyd i Gwenllian Morgan”

-----------------------------------------------

Am rwydwaith Stori Aberhonddu

Mae Rhwydwaith Stori Aberhonddu, a sefydlwyd yn 2018, yn amcanu at ddarparu agwedd gydlynol a chyd-drefnus i gynyddu’r ymwybyddiaeth o dreftadaeth gyfoethog Aberhonddu, a bywiogrwydd ei bywyd diwylliannol ac artistig, yn ogystal â chryfhau hunaniaeth ac arbenigrwydd Aberhonddu.

Strwythur Weithredol Rhwydwaith Stori Aberhonddu

Cadeirlan Aberhonddu yw’r partner arweiniol, gyda Deon Aberhonddu yn Gadeirydd Grŵp Llywio Rhwydwaith Stori Aberhonddu, sy’n darparu cefnogaeth weinyddol a bancio.

Grŵp Hanes Gwragedd Aberhonddu
Ffurfiwyd pwyllgor o GHGA, Grŵp Hanes Gwragedd Aberhonddu, yn 2023, i sicrhau y bydd cenedlaethau gwragedd y dyfodol yn yr ardal yn gallu dysgu a mwynhau storïau gwragedd arloesol Brycheiniog, drwy amlygu’r storïau hyn mewn grwpiau siarad, digwyddiadau a gweithgareddau, yn ogystal ag eitemau coffaol megis placiau, cerfluniau, fideo a phortreadau

Mae partneriaid a chefnogwyr GHGA yn cynnwys Theatr Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Gelf Brycheiniog, Cymdeithas Brycheiniog a Chyfeillion yr Amgueddfa, Y Gaer, y Muse, Cyngor Tref Aberhonddu, Oriel Found ac Archifau Gwragedd Cymru.

Beth yw’r Prosiect yma?

Agorodd Amgueddfa’r Gaer, Oriel Gelf a Llyfrgell Aberhonddu ei drysau yn 2019. Roedd hyn yn cynnwys adnewyddu’r Neuadd Sir, yn dyddio o 1842. Yn ganolog i’r prosiect oedd adnewyddu’r hen Ystafell Llys, sydd ar hyn o bryd yn arddangos portreadau mewn olew a phenddelwau, o ddynion yn unig.

Bydd y prosiect yn ffocysu ar ddod â bywyd i’r lle yma drwy ddweud stori Gwenllian Morgan o Aberhonddu (1852-1939), maeres gyntaf Cymru a ffigwr cydnabyddedig cenedlaethol. 

Bydd rhan gynta’r prosiect yn golygu creu penddelw o Gwenllian Morgan, a fydd yn cael lle amlwg yn yr Ystafell Llys. Bydd Rhan 2 yn golygu creu fideo o fywyd Gwenllian. Ystyrir cynnwys y penddelw a’r fideo yng nghasgliad yr amgueddfa.

Am beth rydyn ni’n edrych?

I Ran 1 rydym yn edrych am artist gyda chysylltiadau Cymreig cryf i gynllunio penddelw ar gynllun cyfoes neu draddodiadol, gan ddefnyddio deunyddiau o’u dewis eu hunan.

Byddai’r ymgeisydd delfrydol yn artist neu’n gyfunol gyda phrofiad mewn cerflunio a/neu’r celfyddydau digidol.

Bydd y penddelw mewn lle canolog yn yr Ystafell Llys. Gweler y lluniau isod.

Y Cam Cyntaf

Ar ôl i chi gofrestru’ch diddordeb, byddwn yn eich darparu â ffeil ddigidol yn cynnwys lluniau a mesuriadau priodol o Ystafell Llys y Gaer, cysylltiadau â hanes Gwenllian a lluniau cyfoes ohoni.

Croesawn syniadau fydd yn :

-Newid yr Ystafell Llys yn lle’i bod yn arddangos cynrychiolaeth wrywaidd yn unig, i fod yn lle mwy cynhwysol. Croesewir syniadau  rhyngweithiol.

-Amlygu cyraeddiadau anhygoel Gwenllian Morgan, a oedd yn byw ar adeg pan nad oedd ond ychydig iawn o wragedd mewn safleoedd o awdurdod.
Amlygu rôl Gwenllian fel ysbrydoliaeth i wragedd ei chyfnod a nawr.

Rhaid i’r artist a gaiff ei apwyntio fod yn agored i weithio’n gydweithredol â noddwyr, a bod yn barod i gymryd rhan yn y broses werthuso ar ddiwedd y prosiect.

Beth a gynigir?

Tâl: Hyd at £5000 (yn cynnwys offer), yn dibynnu ar sgôp y prosiect a’r deunyddiau angenrheidiol.
Teithio: 45 c y filltir, hyd at £500.

Sut i wneud cais?

I gofrestru fod gennych ddiddordeb, anfonwch atom ddim mwy nag un ochr A4, neu dair munud o audio/fideo, yn sôn amdanoch a’ch gwaith, a rhoi braslun o pam fod diddordeb gennych. Anfonwch hwn at Breconstory@gmail.com. Byddem yn eich annog hefyd i gynnwys elfennau gweledol megis lluniau o’ch gwaith neu eich cysylltiad â’r Wê.

Beth yw’r dyddiad cau?

Os oes gennych ddiddordeb, rhaid i chi e-bostio cyn Chwefror 9fed fan bellaf. Bydd detholiad o’r rhain yn cael eu harddangos yn y Gaer ar Ddydd Rhyngwladol y Gwragedd, Mawrth 8fed.

Ganol Mawrth, gwahoddir 3-5 o artistiaid i ddatblygu eu syniad, a rhoddir £200 yr un am hyn, a thelir costau teithio i ymweld â’r Gaer. Caiff y comisiwn dewisedig ei ddewis yn Ebrill, gyda dyddiad gosod y comisiwn yn ystod ail hanner 2024.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y prosiect, gallwch gysylltu â Carla Rapoport, cyd-sefydlydd Grŵp Hanes Gwragedd Aberhonddu, ar carlarapoport@gmail.com, a bydd hi’n barod iawn i gael sgwrs â chi.
Gobeithiwn glywed oddi wrthych!