Grŵp Hanes Gwragedd Aberhonddu  -  Amlinelliad o’r Prosiect

Mae Aberhonddu’n mwynhau hanes cyfoethog, yn dyddio’n ôl i ganol y 5ed ganrif. Tra bo gwragedd wedi chwarae rôl allweddol yn yr hanes hwnnw, nid yw eu storïau wedi cael eu hymchwilio na’u dathlu’n dda iawn. Mae Grŵp Hanes Gwragedd Aberhonddu, cymdeithas o wragedd sy’n byw yn ac o gwmpas Aberhonddu, yn dymuno newid hyn. Ein nôd yw y bydd gwragedd cenedlaethau’r dyfodol yn yr ardal yn dysgu a mwynhau’r storïau am wragedd arloesol a dawnus Brycheiniog, drwy amlygu’r storïau hyn mewn sgyrsiau, digwyddiadau a gweithgareddau. Hefyd drwy gyfrwng eitemau coffaol megis placiau, gwaith celf, fideo a phortreadau.

Mae’r Grŵp Hanes Gwragedd Aberhonddu yn bwyllgor o’r Rhwydwaith Stori Aberhonddu, a sefydlwyd yn 2018, i ddarparu golwg gydlynol a chydgysylltiedig o dreftadaeth gyfoethog Aberhonddu, a nwyf ei bywyd diwylliannol a chelfyddydol, drwy gyfrwng gwefan, cyhoeddiadau a digwyddiadau.

Mae’n prosiect cyntaf yn amcanu at ddathlu bywyd Gwenllian Morgan (1852-!939), sef maeres gyntaf Cymru, a ffigur cenedlaethol amlwg. Yn dilyn ei chyfnod fel maeres, cyfrannodd 910 o wragedd er mwyn comisiynu portread llawn-faint ohoni mewn olew. Mae’r portread yma nawr i’w weld yn Neuadd y Guild, Aberhonddu, ac mae’r llyfr cyfraniadau i’w weld yn y Gaer, Amgueddfa ac Oriel Gelf Aberhonddu.

Ar hyn o bryd mae gennym gefnogaeth oddi wrth ystod eang o grwpiau tuag at brosiect Gwenllian, yn cynnwys tîm curadurol y Gaer, Archif Gwragedd Cymru, Ymddiriedolaeth Gelf Brycheiniog, Cadeirlan Aberhonddu, Theatr Brycheiniog, U3A Aberhonddu, Cymdeithas Hanes Lleol a Theuluol Aberhonddu, Oriel Found, Y Muse, Cyngor Aberhonddu,  Coleg Cymunedol Castell Nedd Port Talbot, Cymdeithas Brycheiniog a Chyfeillion yr Amgueddfa.

I ddechrau, bydd ein ffocws ar:
- Comisiynu creu penddelw o Gwenllian ar gyfer Ystafell Llys hanesyddol y Gaer, yn ogystal â fideo o’i bywyd.
- Sefydlu prosiect hanes lleol i ymchwilio i’r gwragedd a wnaeth arwyddo Llyfr Cyfraniadau 1912.
- Ymchwilio i ddull cyfrannu cyfoes i ariannu’r penddelw, fideo a deunyddiau addysgol am Gwenllian i ysgolion lleol.
- Dynodi rhagor o gyrff i gefnogi’r mentrau hyn, yn cynnwys cyrff sy’n ariannu.

Mae’r cyd-sefydlwyr, Carla Rapoport ac Elizabeth Jeffreys, wedi ysgrifennu a rhoi sgyrsiau ar destunau’n ymwneud â hanes gwragedd lleol, yn amrywio o Sarah Siddons i gerflun Boudica’r Gaer. Mae ganddynt gefndir yn y celfyddydau a mentrau cymunedol, yn ogystal â dod â phrosiectau o’r maint yma i fodolaeth.

Caiff Grŵp Hanes Gwragedd Aberhonddu ei staffio a’i redeg gan wirfoddolwyr, ond mae cyfle i chwilio am gyllid ar gyfer gweinyddwr rhan-amser yn y dyfodol. Rydym yn gweld y gellir ehangu’n gweithgareddau, gyda threfi eraill yn gallu manteisio ar ein profiad, ac yn gallu cychwyn mentrau cyffelyb yn eu hardaloedd.

Ionawr 28ain 2024