Mae Gate Gallery & Glassworks, ffrwyth meddwl y gweithiwr gwydr Kathryn Roberts, yn enghraifft arbennig o sîn celf a chrefft fywiog Aberhonddu. Wedi’i lleoli mewn adeilad rhestredig o’r 17eg ganrif ar lannau Afon Wysg, mae’r Oriel yn arddangos darnau Kathryn (sydd wedi’u gwneud yn ei gweithdy yn yr islawr) ynghyd â detholiad o waith arian, cerameg, enamel ac acrylig gan artistiaid lleol a rhyngwladol.
Mae gwydr yn ddeunydd llawn mynegiant. Mae’n hudol.
Mae hi’n byw uwchben yr oriel ac yn dwyn ysbrydoliaeth gan y dirwedd i gynhyrchu llestri a fasys unigryw, fel y casgliad Llechi ac Iâ trawiadol (gyda chyfuchliniau afreolaidd sydd fel petaent wedi’u llunio gan natur yn hytrach na llaw dynol).
Galwch draw i’r oriel olau hyfryd i gael golwg ar yr eitemau lleol hyn sydd wedi’u gwneud yn Aberhonddu.
11 Porth-y-Dŵr
Aberhonddu
thegategallery.co.uk