Gwenllian Morgan
Ebrill 9fed 1582 – Tachwedd 7fed 1939.
“Un o’r sêr mwyaf llachar i ddisgleirio yn ffurfafen Brycheiniog. Drwy fod y Cynghorydd Cymreig benywaidd cyntaf, agorodd byrth bywyd cyhoeddus i weddill gwragedd Cymru.” - Elsi Pritchard
Ganwyd Gwenllian Elizabeth Fanny Morgan ym Mhenpentre, Defynnog, ar y nawfed o Ebrill 1852. Roedd hi’n ferch i’r Parch Phillip Howell Morgan, curad Penpont, a Battle yn ddiweddarach, a Rheithor Llanhamlach. Wrth dyfu lan mewn mannau gwledig, gwyddai Gwenllian Morgan am y synnwyr o ofal a chefnogaeth a geir mewn cymunedau clos. Daeth â hyn gyda hi pan symudodd i Aberhonddu yn dilyn marwolaeth ei thad yn 1868, a bu’n byw yn 2 Buckingham Place gyda’i mam, Margaret, a’i chwaer, Ellen, a adnabyddid fel Nellie.
Roedd Gwenllian yn hoff o ddysgu ac ymchwil. Roedd hi’n hynafiaethydd a chyhoeddodd lyfrau am feysydd ei hastudiaeth. Roedd ganddi ddiddordeb mawr yn hanes ei thref a’i sir. Gan brofi ei hun yn hynafiaethydd o fri, roedd iddi barch mawr fel hanesydd ac ysgrifennwr medrus, a gofynnid iddi’n gyson am gyfraniadau a chyngor, ac roedd hi’n fwy na pharod i gyfrannu. Cyfrannodd erthyglau i nifer o gyhoeddiadau, yn cynnwys “The Parish Magazine”, “The County Times” ac “Old Wales” – cylchgrawn misol ar hynafiaethau ar gyfer Cymru a’r Gororau, a olygid gan W.R.Williams o Dalybont-ar-Wysg. Testun agos iawn at ei chalon oedd bywyd Henry Vaughan, bardd o Frycheiniog.
Roedd hi’n wraig gwbl anhunanol, ac wedi ymroi i les eraill ac i helpu’r rhai mewn angen, gan roi cymorth i dlodion allan o’i phoced ei hun. Denodd ymddiriedaeth y dosbarth gweithiol, a gwyddent na chaent addewidion gwag ganddi. Roedd hi’n deall y caledi oedd yn wynebu pobl, ac roedd hi’n eu trin â charedigrwydd a dealltwriaeth, a dangosai barodrwydd i helpu. Roedd hi’n ymroddedig i wella’u hamodau, ac roedd hi’n angerddol ynglŷn â rhoi addysg dda i blant. Cynigiai ei gwasanaeth i bron bob cangen o waith cymdeithasol ym Mrycheiniog. Roedd hi’n delio â materion cyhoeddus ac roedd ar restr hirfaith o bwyllgorau.
Ganwyd Gwenllian ar adeg pan ystyrid menywod yn israddol i ddynion, gydag ambell eithriad prin. Eu gwaith nhw oedd gofalu am y tŷ a geni plant. Dynion oedd yn mynd allan i ennill cyflog, ac roedd rhwystrau yn ffordd unrhyw wraig a fynnai fyw’n wahanol. Roedd Gwenllian yn benderfynol o dorri’n rhydd o’r hualau hyn, a’i gwneud yn haws i wragedd i fynegi eu hunain, i gael eu gwerthfawrogi ac i gael mwy o gyfleon. Arweiniai drwy esiampl ac roedd hi’n ymgyrchydd brwd dros hawliau merched a chyfraniad merched, yn enwedig ym meysydd gwleidyddiaeth a hawliau pleidleisio. Roedd hi’n Ysgrifenyddes Brydeinig i’r ‘World Woman’s Christian Temperance Union’ ac yn arolygydd Deisebau a Chytundebau. Roedd hi’n weithiwr Rhuban Gwyn ac yn Llywydd Cangen Brycheiniog o’r ‘National British Women’s Temperance Association’. Roedd hi’n trefnu hefyd waith y ‘Polyglot Petition’ ym Mhrydain Fawr ac Iwerddon.
Yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif pasiwyd deddf a olygai y gallai gwragedd fod yn gymwys i sefyll am y tro cyntaf ar gyfer llywodraeth leol. Gwelai pobl Aberhonddu Gwenllian Morgan fel ymgeisydd addas, ar ôl gweld pa mor llwyddiannus fuodd hi mewn amrywiol feysydd. Ym 1907 arwyddodd nifer fawr o bobl leol o wahanol ddosbarthiadau, cefndiroedd a barn lythyr yn gofyn ar Gwenllian i sefyll fel ymgeisydd etholiadol. Roedd hyn yn rhywbeth cwbl newydd bron, ond roedd hi’n wraig anhygoel o ddewr. Derbyniodd y sialens ac ennill. Hi oedd y wraig gyntaf yng Nghymru i gael ei hethol i gymryd rhan mewn llywodraeth leol ac i eistedd ar gyngor bwrdeisdref. Roedd hon yn fuddugoliaeth ac yn foment dyngedfennol mewn hanes ar gyfer symudiad gwragedd mewn cymdeithas yn y dyfodol. Ym 1910 daeth cyfle i fod yn Faer, ond byddai ei chyd-aelodau ar y cyngor wedi ceisio’i rhwystro pe gallent. Dywedodd y Cynghorydd C.W.Best “Nid yw dyrchafu gwragedd i’r fath safle yn fanteisiol i’r gymuned nac yn fanteisiol i fenywdod.” Nid oedd unrhyw ffordd y gallai aelodau’r cyngor rwystro Gwenllian Morgan, ac mewn buddugoliaeth nodedig i fenywod ym mhob man, hi oedd y wraig gyntaf, nid yn unig yn Aberhonddu ond drwy Gymru gyfan i fod yn Faer, o 1910-11. Hi oedd y Maer yn ystod blwyddyn Coroniad Siôr V yn 1911. Gwahoddwyd pob Maer i’r Coroniad, ond dewisodd Gwenllian Morgan, a oedd yn ffyddlon i gymuned Aberhonddu, aros gartref er mwyn darparu adloniant arbennig i’r plant lleol, ac i ddathlu’r achlysur gyda’i phobl. Mynegodd Gwenllian droeon ei diolchgarwch i’w chwaer Nellie am ofalu am y cartref pan fu farw eu mam, fel y gallai Gwenllian ganolbwyntio ar faterion eraill a gwneud ei holl gyraeddiadau’n bosibl. Bu Nellie yn Faeres yn ystod cyfnod Gwenllian fel Maer.
Gwnaeth y modd yr oedd Gwenllian wedi ymgymryd â’i rôl, cyflawni ei dyletswyddau fel Maer a gweithio er lles y gymuned argraff fwy nag erioed ar bobl Aberhonddu. Nid oedd unrhyw aberth yn ormod iddi er lles ei chyd-drigolion. Erbyn diwedd tymor Gwenllian fel Maer, roedd teimlad cryf y dylai hi fod yn ymwybodol o werthfawrogiad y bobl ohoni. Roedd hi wedi rhoi llais i wragedd Aberhonddu, ac fel gwerthfawrogiad daeth 900 o wragedd ynghyd i dalu am gomisiwn i’r arlunydd Isaac Cooke i wneud portread ohoni mewn olew. Byddid yn cyflwyno’r portread iddi, ynghyd â chyfarchiad goliwiedig, yn y Guildhall, Aberhonddu. Ni chaniateid i ddynion gyfrannu. Ar ddydd y cyflwyniad roedd y neuadd yn orlawn, gyda nifer yn methu cael mynediad. Mae’r portread yn dal i fod yn rhan o gasgliad Cyngor Tref Aberhonddu, ac mae i’w weld yn y Guildhall heddiw, yn nodi moment allweddol yn hanes Aberhonddu ac yn atgoffa pawb o’r effaith enfawr a gafodd Gwenllian Morgan ar fywyd Aberhonddu a’r wlad. Roedd hi’n llwyddiannus wrth alluogi gwragedd i dyfu, i gael eu cymryd fwy o ddifri ac i sicrhau fod dynion yn gwerthfawrogi eu cryfderau a’u galluoedd.
Roedd Gwenllian yn wraig wylaidd iawn. Mynegodd ei diolchgarwch am y cyfarchiad, ond mynnai nad oedd yn haeddu’r anrhydedd. Er mai digwyddiad cyntaf ar y pryd oedd cael gwraig yn Faer yn 1910, dyna’r hyn oedd gwleidyddiaeth leol. Mae’n werth nodi fod Westminster a’r hawl i bleidleisio wedi eu llwyr wahardd i wragedd bryd hynny, a heb amheuaeth roedd ei gwaith yn gatalydd i newid hynny yn 1918. Aeth unarddeg mlynedd arall heibio cyn iddi beidio a bod yn aelod o’r cyngor – erbyn hyn roedd hi’n 71 oed.
Mae ei theulu wastad wedi’i gysylltu â gwaith yr Eglwys, ac yn 1920 apwyntiwyd Gwenllian Morgan yn Warden Eglwys yn Eglwys y Priordy
(daeth Eglwys Priordy Ioan yr Efengylydd yn Eglwys Gadeiriol Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu yn 1923). Roedd hon yn fuddugoliaeth i wragedd ym mhob man gan mai pethau prin oedd gwragedd fel Wardeiniaid Eglwys yn y dyddiau hynny. Hi hefyd oedd Ffrind cyntaf Cadeirlan Aberhonddu. Pa bynnag brosiectau y byddai hi’n gweithio arnynt neu ymrwymiadau fyddai ganddi yn ystod ac wedi ei chyfnod fel Maer, ni phallodd ei hymroddiad i’r Gadeirlan. Ysgrifennai’n helaeth am y Gadeirlan, gan lunio hyd yn oed dywys-lyfr a thraddodi darlithoedd. Roedd hi’n feistr llwyr ar y testun.
Anrhydeddodd Prifysgol Cymru Gwenllian Morgan â gradd anrhydedd M.A. yn 1925 – “gwraig eang ei diwylliant â galluoedd llenyddol arbennig”- am ei gwaith ymchwil gwerthfawr i fywyd Henry Vaughan. Cydnabyddwyd ei gwaith a’i hymroddiad hefyd i Sir Frycheiniog, gan nodi iddi fod yn arloeswr mewn rhyddfreinio merched o faterion yn ymwneud â’r cartref, ac amlygu’r effaith fyddai hyn yn ei gael ar ddyfodol gwragedd yng Nghymru.
“Mae golau llachar wedi ei ddiffodd” – dyna’r geiriau a ddefnyddiodd y Cynghorydd Wm Williams, a oedd yn Faer ar adeg ei marwolaeth. Drwy ei hesiampl hi lledodd Gwenllian Elizabeth Fanny Morgan orwelion gwragedd ar draws y byd. “Yn ystod ei bywyd ymroddedig, fe gynheuodd a gofalu am nifer o lampau, ond ni losgodd yr un fflam yn fwy llachar yn ei chalon na’i chariad at Sir Frycheiniog a’i phobl.” – Elsi Pritchard.
Bu Gwenllian Morgan farw ar y 7fed o Dachwedd, 1939, yn 87 oed. Mae ei llwch yn gorwedd, ynghyd â’i chwaer Nellie,ym mynwent Penpont, ger bedd ei rhieni, yn ôl ei dymuniad.
-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Lluniau a gynhwysir yn y Stori:
1. Plac ar Buckingham Place.
2. Paentiad gan Isaac Cooke, yn dangos Gwenllian fel Maer y Coroniad. Gwreiddiol mewn olew.
3. Llun o’r Oriel Bortreadau Genedlaethol, gan Cyril Flower. Cynrychiolodd Cyril Flower Fwrdeisdref Aberhonddu yn Nhŷ’r Cyffredin o 1880 – 85.
Cyfeiriadau::
1. Welsh Journal titled “Brycheiniog” Volume 12, 1966/67. Online Journal Published by The National Library of Wales. Pg 93 – 111. Gwenllian Fanny Elizabeth Morgan by Elsie Pritchard.
2. https://biography.wales/article/s-MORG-FAN-1852
3. Book, Thumbnail Sketches of White Ribbon Women edited by Clara Chapin pg.18/19
4. https://www.npg.org.uk/collections/search/person/mp98120/gwenllian-elizabeth-fanny-morgan
5. http://worldcat.org/identities/np-morgan,%20gwenllian%20elizabeth%20fanny/
6. Brecon Local & Family History Society (BLFHS) Newsletter 80 – September 2018
8. https://www.bbc.co.uk/wales/history/sites/themes/society/women_politics.shtm