Neuadd y Guildhall a gwaelod y Stryd Fawr

Adeiladwyd Neuadd y Guildhall yn wreiddiol o ddeutu 1624, ond cafodd adeilad cyfredol y Guildhall ei godi yn y 1770au a chafwyd newidiadau pellach ym 1888. 

 

Yn ystod gweithredu’r newidiadau diweddaraf hyn caewyd y bwâu a oedd o gwmpas yr adeilad gan friciau ac ychwanegwyd ffenestri.  Roedd seler ar un adeg yn cael ei  ddefnyddio i storio nwyddau’r marsiandwyr ar gyfer y farchnad ar y llawr gwaelod ac a oedd hefyd yn darparu cartref ar gyfer cyffion er mwyn medru cosbi’r rhai a oedd wedi cyflawni troseddau cymharol ddi-bwys. Lan lofft mae’r gofod wedi cyflawni gwahanol swyddogaethau, yn cynnwys, ar amrywiol adegau, fod yn swyddfeydd i’r Cyngor, yn lys barn, ac yn ofod theatr.  Ar un adeg roedd y llawr uchaf yn storfa arfau milwrol, yn cynnwys powdwr du ffrwydrol – a oedd yn naturiol yn fater o ofid i’r rheini a oedd yn byw ac yn gweithio gerllaw.

Os edrychwch draw at ochr arall y ffordd, fe welwch lle y ganed yr esgob Methodistaidd a’r cenhadwr Thomas Coke 1747, a'r actores o’r ddeunawfed ganrif Sarah Siddons 1755, yn ogystal ag arwydd â’r dyddiad 1589 arno ar dalcen 46 y Stryd Fawr, tŷ tref a ail-ddyluniwyd o ddeutu diwedd y ddeunawfed ganrif sydd â wyneb siop, a manylion y tu mewn, cwbl ryfeddol.  Roedd Sarah Siddons yn un o actorion enwocaf ei hoes – ar ei hanterth byddai hyd yn oed yn rhoi darlleniadau preifat i’r Brenin a’r Frenhines.   

Os edrychwch chi gyferbyn fe welwch Fanc Wilkin neu yn fwy cyffredin ‘yr Hen Fanc’, a sefydlwyd ym 1778 (Lloyds bellach).  Roedd yn argraffu ei bapurau arian ei hun, ac yn talu cyflogau miloedd o weithwyr ar draws cymoedd de Cymru.  Fe wnaeth hefyd ddarparu arian ar gyfer y meistri haearn gan gynorthwyo gyda chyllido rheilffyrdd, camlesi ac roedd cyfranddaliadau ganddo hyd yn oed yn rhai o’r llongau a hwyliai o borthladd Llanelli. 
 

 

The Guildhall is part of our WALK: The Brecon Story heritage trail. Click here to access the Google Earth map or visit the next place on our trail

 

the Guildhall and Brecon High Street Inferior