Dydd Mawrth 25 Ionawr
16.30 - 18.00
Lefel - Dechreuwr / Canolig
Ar-lein – gan ddefnyddio Zoom
RHAD AC AM DDIM
Gall straeon sain fod yn ffordd rymus o recordio rhywun sy'n siarad, cerddoriaeth neu hyd yn oed synau yn y byd o’n cwmpas. Dysgwch sut i recordio a golygu clipiau sain gan ddefnyddio ffôn clyfar neu liniadur ar y cwrs gwych hwn sydd wedi'i gynllunio i'ch rhoi ar ben ffordd.
Mae Marissa Holden o Holden Media Pro yn arbenigo mewn helpu pobl i fagu hyder o ran creu cynnwys ar-lein ac mae ganddi flynyddoedd lawer o brofiad fel cyn newyddiadurwr darlledu gyda Sky News a'r BBC.
Nodwch os gwelwch yn dda mai dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd gennym ar y cwrs hwn ac rydym yn gobeithio ei gynnal yr eilwaith, os oes galw mawr amdano. O’r herwydd, os fyddwch chi’n archebu lle, ond wedyn yn canfod na allwch fod yn bresennol, rhowch wybod i ni fel y gall rhywun arall lleol elwa o'r hyfforddiant rhad ac am ddim hwn.
Os oes angen cymorth arnoch er mwyn dechrau defnyddio Zoom, cysylltwch â ni gan y gallwn eich helpu gyda hyn cyn y cwrs.
ARCHEBU: cliciwch yma i ddefnyddio'r ddolen archebu neu cysylltwch â Stori Aberhonddu trwy e-bostio breconstory@gmail.com
Ariannwyd yr hyfforddiant hwn gan Stori Aberhonddu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.